Part of the debate – Senedd Cymru am 7:08 pm ar 25 Ebrill 2018.
Wel, diolch yn fawr iawn, a chredaf iddi fod yn ddadl ddefnyddiol iawn fel y dylai'r dadleuon hyn fod. Ac mae wedi bod yn un fywiog ac rwy'n falch fod pawb wedi cyfrannu yn y ffordd a wnaethant, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu, yn enwedig Lynne Neagle? Rydych chi'n iawn, roedd angen inni gael, ac mae'n dal i fod angen inni gael mwy o eglurder a sicrwydd. Ond mae wedi cymryd dadl gan Blaid Cymru i geisio denu rhywfaint o'r wybodaeth hon allan o Lywodraeth Cymru—dylai fod wedi dod fisoedd yn ôl ac nid yr ôl-weithredu hwn yn awr ar ôl iddo fod ar draws y penawdau newyddion. Ac mae Darren Millar yn gwbl gywir: pa ymgysylltu a wnaed ar hyn? Ond wyddoch chi, efallai y dylech awgrymu hynny wrth Alun Cairns hefyd, i gyfeirio at y ddadl flaenorol y prynhawn yma.
Nawr, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud wrthym eich bod yn mynd i adolygu'r canllawiau ar wisgoedd ysgol—gwych, rhagorol, mae'n hen bryd, ond ble rydych chi wedi bod? Ble rydych chi wedi bod nes nawr? Yn sicr, os ydych yn teimlo mor gryf, ac nid wyf yn amau eich ymrwymiad, felly—. Wel, iawn, gallwch chwythu a chodi eich ysgwyddau, ond os ydych chi'n teimlo mor gryf am hyn, yna dowch, dylem fod wedi gwneud rhywbeth amdano cyn hyn, rhaid imi ddweud. Rydych yn dweud ei fod yn y gyllideb, iawn. Rydych yn dweud ei fod yn y gyllideb. Wel, nid wyf yn siŵr beth y mae hynny'n ei ddweud am dryloywder Llywodraeth Cymru, ac atebolrwydd o ran y Llywodraeth, oherwydd—. Rydych yn honni ei fod yno, ac o'r gorau, nid awn i gweryla yn ei gylch, ond ni welodd y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg mohono, ni welodd y comisiynydd plant mohono, ni welodd neb y siaradais â hwy mohono, ar wahân i chi'ch hun wrth i chi chwarae eich gêm flynyddol o siarâds craffu ar y gyllideb gyda phwyllgorau'r Cynulliad. Felly, y tro nesaf efallai—[Torri ar draws.] Efallai y tro nesaf y byddwn angen mwy o wybodaeth ymlaen llaw, mwy o onestrwydd. Os ydych yn gweld rhywbeth fel hyn a allai ddod yn ôl i'ch brathu, efallai y dylech dynnu ein sylw ato, ac efallai y gallech ddweud wrthym hefyd ble roedd y cyllid ar gyfer rhywbeth yn lle'r cynllun hwn yn y gyllideb.