Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 25 Ebrill 2018.
Ar hyn o bryd, mae bwrdd iechyd prifysgol Hywel Dda yn ymgynghori ar ei gynigion i drawsnewid gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau ysbyty yng nghanolbarth a gorllewin Cymru. Rwy'n annog pawb sydd â diddordeb i ymgysylltu a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad, a lleisio barn wrth helpu i lunio gwasanaethau ar gyfer y dyfodol yn y rhanbarth.