Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 25 Ebrill 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n ymddiheuro am golli eich sylwadau agoriadol, ond rwyf wedi darllen eich datganiad yn llawn.
'Cyflawniad arwyddocaol', 'Datganiad cryf', 'Gadewch inni fwrw ymlaen â gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit'. Datganiadau Alun Cairns, Ruth Davidson ac Andrew R.T. Davies yw'r rhain. Roedd hyd yn oed Prif Weinidog y DU yn diolch ichi heddiw. Mae'r Torïaid yn baglu dros ei gilydd i groesawu ildiad y Blaid Lafur a'u parodrwydd i estyn pwerau ein Senedd yn ôl i San Steffan. Nawr, drwy fod yn gydawduron 'Diogelu Dyfodol Cymru' gyda ni a phleidleisio i gefnogi ein Bil parhad, roedd Llafur yng Nghymru wedi deall y bygythiad i Gymru a'r tanseilio a fyddai'n digwydd i'n pwerau a ddaw yn sgil Brexit. Mae ein mantais wedi mynd, ein harweiniad wedi'i golli, a'r Senedd wedi'i gwanhau. Cawsom ein camarwain gan y Torïaid a Llafur mewn modd nas gwelwyd erioed o'r blaen.
Lywydd, roedd ateb i fy llythyr, a gefais y bore yma gan Ysgrifennydd y Cabinet, yn honni bod fy ngoslef yn ymfflamychol. Pan fydd yn gwerthu'r Senedd hon a democratiaeth fy ngwlad i San Steffan, gall esgusodi fy niffyg goslef gymodlon. Mae'r ffaith nad yw ef a'r gweddill ohonoch mor flin â fi ynghylch y syniad y bydd y Cynulliad hwn yn cael ei wanhau gan San Steffan yn dangos lle mae eich blaenoriaethau.
Yn ei ddatganiad ar lafar, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet y byddai'n well ganddo pe na bai cymal 11 wedi'i gynnwys. Fy nghwestiwn cyntaf braidd yn amlwg yw: pam felly y gwnaeth fargen gyda'r Torïaid sy'n caniatáu i gymal 11 aros? A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu, fel y mae wedi dweud o'r blaen, y bydd hyn yn arwain at lai o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol, neu a yw'n cytuno gyda'r Prif Weinidog fod y fargen hon yn golygu mwy o bwerau i Gymru? A gaf fi ei eirio mewn ffordd arall? Faint o bwerau, a pha bwerau, rydych yn eu dychwelyd i San Steffan?
Lywydd, mae gennyf lawer mwy o gwestiynau, ond mae gennyf un cwestiwn olaf allweddol am nawr. Yn ei lythyr at yr ASau—ac fel yr amlinellwyd gennych yn eich llythyr i mi, ac yn eich datganiad heddiw—mae Senedd y DU yn cadw'r awdurdod i ddeddfu dros y Senedd hon os na cheir cytundeb ar faterion. A all Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam ei fod yn hapus i San Steffan weithredu ar faterion datganoledig heb gydsyniad y ddeddfwrfa ddatganoledig, fel y nodwyd gan David Lidington?