Part of the debate – Senedd Cymru am 4:15 pm ar 25 Ebrill 2018.
Maes o law, pe bai ymgais ar ran Llywodraeth y DU i geisio cipio pŵer, credaf y byddai hynny'n ysgogi argyfwng cyfansoddiadol o fath difrifol iawn, ac yn yr amgylchiadau hynny byddai aelodau o UKIP hyd yn oed, sy'n credu mewn parchu canlyniadau refferenda, ar ochr y bobl sydd am gadw pwerau'r Cynulliad hwn. Nid wyf yn credu, felly, y byddai unrhyw Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn debygol o grwydro i'r diriogaeth honno, hyd yn oed yn anfwriadol.
Rhaid imi ddweud, credaf ei bod braidd yn rhyfedd fod Plaid Cymru wedi mabwysiadu'r ymagwedd hyperbolig hon, fel y'i disgrifiwyd gan yr Ysgrifennydd cyllid, o ystyried bod y rhain oll yn bwerau nad oes gennym unrhyw reolaeth o gwbl drostynt ar hyn o bryd am eu bod wedi'u lleoli ym Mrwsel, yn nwylo Comisiynwyr yr Undeb Ewropeaidd na allwn eu henwi hyd yn oed, heb sôn am eu hethol neu eu diswyddo, sefydliad nad oes gan y Deyrnas Unedig, drwy Gyngor y Gweinidogion, ond 8.5 y cant yn unig o'r pleidleisiau. Senedd Ewrop, sydd ag ond ychydig iawn o bwerau cyfyngedig i roi deddfwriaeth mewn grym yn yr UE—yn Senedd Ewrop, nid oes gan Gymru ond pedwar ASE o blith oddeutu 750. Felly, mae democratiaeth a'r rhagolygon yma'n gwella'n aruthrol, hyd yn oed os bydd rhai o'r meysydd polisi hyn yn aros yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig dros dro yn hytrach na chael eu datganoli i'r Cynulliad yma yng Nghymru.
Ceir tair agwedd ar y cytundeb hwn y credaf ei bod hi'n werth tynnu sylw atynt ar y pwynt hwn, yn enwedig y cymalau machlud y cyfeirir atynt ym mharagraff 7 o'r cytundeb rhynglywodraethol, sy'n sefydlu go iawn fod y pwerau hyn yn mynd i gael eu dychwelyd i'r Cynulliad yn llawn mewn cyfnod cymharol fyr o amser. Nid yw hyd at saith mlynedd yn amser hir ofnadwy yn oes deddfwrfa, hyd yn oed un mor ifanc â Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Er mwyn cael marchnad fewnol sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig, mae pawb ohonom yn derbyn y bydd yn rhaid cael fframweithiau cyffredin a bydd yna broses o negodi a fydd yn parhau, a lle bydd llais Llywodraeth Cymru a phobl Cymru yn cael ei glywed yn ei negodiadau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er nad oes gennym bŵer i ddeddfu yn y pen draw.
Mae'r ail bwynt yr hoffwn dynnu sylw ato ym mharagraff 8 y cytundeb rhynglywodraethol, ac mae ei frawddeg olaf yn dweud na ddefnyddir y pwerau i weithredu polisi newydd mewn meysydd sydd wedi'u datganoli, gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond mai diben sylfaenol defnyddio pwerau o'r fath fydd effeithlonrwydd gweinyddol.
Felly, yr hyn y siaradwn amdano yma yw trefniant gwaith yn unig, gwrthwyneb llwyr y cipio pwerau y dywedir ei fod yn digwydd mewn gwirionedd.
Mae'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud ar hyn yn ymwneud â pharagraff 9. Mae'n dweud wrth gwrs y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddiwygio deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd y gellir ei chymhwyso'n uniongyrchol ym mhob maes nad yw wedi ei gynnwys yn y rhan honno o'r cytundeb sy'n rhoi pŵer deddfu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Felly, byddwn yn cael pwerau yn ôl, hyd yn oed yn y cyfnod o saith mlynedd pan nad oes gennym reolaeth lwyr dros y meysydd hyn. Felly, dyma gam mawr ymlaen mewn democratiaeth yng Nghymru.
Fodd bynnag, rwy'n gobeithio, pan gawn ni ryddid llwyr, yn y pen draw, na fydd bodolaeth fframweithiau cyffredin yn rhy anhyblyg ac y bydd gennym allu i wahaniaethu, oherwydd gwelaf mai un o fanteision mawr dychwelyd pwerau o Frwsel i Gaerdydd, Caeredin, Belfast, yn ogystal â San Steffan, yw y gallwn gael rhywfaint o gystadleuaeth ddeddfwriaethol rhwng gwahanol rannau'r Deyrnas Unedig. Ceir gwahanol ffyrdd y gallwn weithio gyda'n gilydd, ac nid oes raid i bawb ohonom wneud pethau yn yr un ffordd a symud gyda'n gilydd ar yr un cyflymder. Drwy broses o gystadleuaeth fewnol, fe fyddwn yn canfod pa broses yw'r orau a pha ffurf ar ddeddfwriaeth yw'r orau, a bydd pawb yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig pobl Cymru, yn elwa o'r broses honno. Felly, rwy'n llongyfarch yr Ysgrifennydd cyllid ar ei gyflawniad, a chredaf ei fod yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol.