Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 25 Ebrill 2018.
Rwy'n parhau i resynu braidd at yr iaith a ddefnyddiwyd gan arweinydd Plaid Cymru. Disgrifiwyd y cynnydd y mae'n ei ddisgrifio fel ildiad a chamarwain gan Brif Weinidog yr Alban, yn ei llythyr at y Prif Weinidog heddiw, fel 'cynnydd sylweddol a wnaed'. Dyna a ddywedodd Michael Russell wrth Senedd yr Alban ddoe, pan ddisgrifiodd y llu—y llu—o ddatblygiadau a wnaed o ganlyniad i'r trafodaethau. O ystyried y nifer o gamau a enillwyd gennym drwy gydweithio â'n cymheiriaid yn yr Alban, mae galw'r hyn a gyflawnwyd yn ildiad ac yn gamarwain mor bell oddi wrth y ffeithiau fel bod yr Aelod yn cael ei threchu gan ei gormodiaith ei hun. Mae arnaf ofn, mewn gwirionedd, nad oes unrhyw gysylltiad rhyngddo a'r hyn sydd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn.
Pan gafodd cymal 11 ei wrthdroi yn y gwelliannau a gyflwynwyd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn gynharach, fe ddywedasom, Lywydd, fod yna bedwar cwestiwn heb eu hateb. Atebir y cwestiynau hynny i gyd gan y cytundeb hwn. Dywedasom, 'Sut y rhoddir pwerau yn y rhewgell?' i ddefnyddio cyfatebiaeth Mark Isherwood. Wel, fe wyddom yn awr y cânt eu rhoi yn y rhewgell gyda chytundeb y Cynulliad Cenedlaethol hwn a Senedd yr Alban. Dywedasom, 'Pa ddefnydd y gellir ei wneud o'r pwerau tra'u bod yno? Oherwydd cawsom ein hatal rhag defnyddio'r pwerau hynny gan y ddeddfwriaeth.' Nawr, caiff Gweinidogion Lloegr eu hatal rhag defnyddio'r pwerau hynny yn ogystal. Yna fe ddywedasom, 'Sut y caiff y pwerau hynny eu tynnu allan o'r rhewgell?' Ac yn awr, fe wyddom fod gennym broses ar gyfer cytuno ar y fframweithiau sy'n ein symud i le cyfansoddiadol newydd sbon, ac rwy'n credu bod hwnnw'n gam mawr ymlaen i gyflawni'r math o drefniadau rydym am eu gweld ar gyfer dyfodol y Deyrnas Unedig.
Nawr, wrth gwrs mae'n wir fod y blaid hon yn blaid ddatganolaidd. Felly, yn y trefniadau cyfansoddiadol sydd gennym ar hyn o bryd, os na ellir sicrhau cytundeb, rydym yn cydnabod bod angen trefniant ôl-stop i sicrhau y gall trefniadau fynd yn eu blaenau, ac fel y mae pethau, mater i Senedd y DU yw hynny. Rydym wedi cyflwyno cynigion a fyddai'n newid hynny ac yn rhoi'r cyfan ar sail lawer mwy cyfartal, ond mae hynny oherwydd ein bod yn credu mai o fewn y Deyrnas Unedig y mae sicrhau'r dyfodol gorau i Gymru—mewn Teyrnas Unedig sy'n gweithredu'n effeithiol, sy'n gweithredu ar sail cydraddoldeb, sy'n gweithredu ar sail parch cydradd. Os ydych yn blaid genedlaethol, mae'n gwbl briodol eich bod dweud yn glir wrth bobl nad ydych yn rhannu'r gred honno. Nid ydych yn ddatganolwr, rydych yn ymwahanwr. Rydych yn credu y dylai Cymru fod yn gwbl gyfrifol am bopeth sy'n digwydd. Mae'n safbwynt cwbl barchus i'w arddel, ond credaf fod gan bobl yr hawl nid yn unig i'w gael ar sail parch, ond hefyd yn agored ac mewn ffordd sy'n glir ynglŷn â'r hyn y mae pobl yn ei gredu. Dyna pam, pan fydd yr Aelod yn gofyn pa bwerau sy'n cael eu cadw yn San Steffan, rwy'n tynnu ei sylw at y rhestr a gytunwyd gyda Llywodraeth yr Alban—y rhestr a atodwyd at y cytundeb rhynglywodraethol. Mae yno i bawb ei gweld.
'Beth sy'n digwydd os na cheir cytundeb?' gofynnodd yr Aelod. Rwy'n credu bod y cytundeb hwn yn ein rhoi'n amlwg mewn gofod lle rydym wedi ymrwymo i sicrhau cytundeb. Os na allwch chi, rhaid i rywun allu rhoi camau ar waith i ddatrys materion na ellir eu gweithredu fel arall. Mae ein cynigion, a'r cytundeb hwn, yn camu ymlaen ar y daith honno a fyddai'n sicrhau bod y sefyllfa honno'n cael ei datrys drwy fod pob un o bedair rhan y Deyrnas Unedig yn dod at ei gilydd i'r diben hwnnw.