Part of the debate – Senedd Cymru am 6:13 pm ar 25 Ebrill 2018.
Ar gyfer eitem 8 ac eitem 9, rwy'n sylweddoli mai dadleuon hanner awr ydynt, a gwn fod gennyf lawer o siaradwyr yn y ddwy. Rwyf wedi gofyn ichi ystyried araith dair munud. Rwy'n derbyn eich bod oll wedi ysgrifennu ac wedi ymchwilio, ond os gallwch, bydd yn caniatáu inni gynnwys pawb yn y dadleuon. Felly, dyna eich atgoffa'n garedig. Eitem 8, felly, yw dadl Plaid Cymru ar y bwriad i ailenwi ail bont Hafren. Galwaf ar Dai Lloyd i wneud y cynnig.