Part of the debate – Senedd Cymru am 6:18 pm ar 25 Ebrill 2018.
Ond pam trwblu o gwbl efo enwi pontydd ta beth, ydy'r pwynt sylfaenol, pan mae materion llawer pwysicach i'w datrys? Mae'n gofynion ni fel rhan o'r ddadl yma heddiw yn syml: rhowch gyfle i bobl Cymru gael eu dweud ar enw a roddir i un o strwythurau mwyaf nodedig ein cenedl, neu i beidio â'i enwi o gwbl, yn hytrach na gadael i'r Ceidwadwyr sathru ar fat croeso Cymru. Diolch yn fawr.