Part of the debate – Senedd Cymru am 6:32 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau yn glir am eu cyfraniadau ac am y cyfle hwn i ymateb. Fel y dywedais yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf, dyma bont sy'n eiddo i Lywodraeth arall, ac rydym wedi gwneud galwadau mynych yn y gorffennol am drosglwyddo perchnogaeth am y groesfan i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, yn hanesyddol mae'r galwadau hyn wedi cael eu gwrthod. Felly, penderfyniad i Lywodraeth y DU yw a ddylid cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar enwi'r bont ai peidio. Hefyd, gwnaed cais i ofyn i Lywodraeth y DU ailystyried ei phenderfyniad yr wythnos diwethaf. Ond i ailadrodd, ni fydd Llywodraeth Cymru yn gofyn i Lywodraeth y DU ailystyried ei phenderfyniad.
Rhaid imi ddweud, ar adegau, mae wedi bod yn bryder i mi fod yr iaith a ddefnyddiwyd weithiau, nid yn y Siambr hon, ond yn sicr ar y cyfryngau cymdeithasol, yn awgrymu bod pobl sy'n cefnogi'r teulu brenhinol yn llai o Gymry na'r rhai nad ydynt yn eu cefnogi, eich bod yn llai o Gymry os ydych yn cefnogi enwi'r bont Hafren yn Bont Tywysog Cymru. Buaswn yn annog holl ddinasyddion Cymru i fod yn fwy goddefgar o safbwyntiau eraill a chefnogi amrywiaeth o safbwyntiau. Ni fuaswn yn dymuno i unrhyw un y tu allan i Gymru feddwl nad ydym yn goddef barn a safbwyntiau pobl eraill. Hefyd byddai'n well gennyf pe baem yn canolbwyntio ar gael gwared ar dollau'r bont yn hytrach nag ar ei hailenwi. Cafwyd cefnogaeth drawsbleidiol wybodus ac ystyrlon yn y Senedd o blaid diddymu'r tollau ar y ddwy bont, yn ogystal ag ymhlith busnesau a diwydiant. Rwy'n credu'n gryf iawn fod y gefnogaeth hon wedi ein galluogi i lunio achos pwerus a chyson dros weld Llywodraeth y DU yn eu dileu, rhywbeth a chwaraeodd ran fawr ym mhenderfyniad Llywodraeth y DU yn y pen draw yn fy marn i.
Os edrychwn tua'r dyfodol, fel y dywedodd Russell George, mae cynhyrchiant economi Cymru ar fin cael hwb o dros £100 miliwn y flwyddyn. Mae'n hanfodol, wrth inni adael yr UE, ein bod yn manteisio ar bob cyfle i hyrwyddo Cymru'n fyd-eang ac yn wir, ar bob lefel. Mae cael gwared ar y tollau yn anfon neges gref iawn yn rhyngwladol fod Cymru'n agored i fusnes, ac nad oes unrhyw rwystrau i symudiad rhydd traffig rhyngom a Lloegr a gweddill y DU. Galwaf yn awr ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau rhyngom a gweddill Ewrop.
Nawr, fel Llywodraeth, mae ymgysylltu â'r cyhoedd yn allweddol i'r modd y lluniwn ein polisïau. Yn wir, o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae'r ffyrdd o weithio yn pennu bod yn rhaid inni weithio mewn ffordd gydweithredol, gyda phobl yn cymryd rhan yn llawn. Byddwn yn parhau i ymgynghori gyda'r cyhoedd ar gynigion ar gyfer ein hasedau ein hunain yng Nghymru i helpu i wella ansawdd lleoedd a hunaniaeth leol. Rwy'n falch o gadarnhau y byddwn yn cynnal ymgynghoriadau lleol ar enwi pontydd cefnffyrdd newydd yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydym yn ystyried ymgynghori ar enwi'r bont ym Mryn-mawr ar gyfer rhan 2 yr A465, ac yn ddiweddar rydym wedi dechrau trafodaethau gyda Chyngor Sir y Fflint ynghylch enwi'r hyn a elwir ar hyn o bryd yn bont newydd Sir y Fflint; dyma'r porth i Gymru yn y gogledd. Ac rwyf hefyd yn awyddus i gynnal ymgynghoriad lleol ynghylch enwi trydedd bont y Fenai. Rhaid imi bwysleisio mai ymgynghoriadau lleol fydd y rhain, i roi hawl i'r bobl sy'n byw yn y cymunedau y maent yn rhoi hunaniaeth iddynt gael rhan yn y broses o'u henwi.
Edrychaf ymlaen at weld beth fydd canlyniadau'r ymgynghoriadau lleol hyn, a buaswn yn annog yr holl wleidyddion, a'r holl bobl, ble bynnag y maent yn eu cynrychioli, a ble bynnag y maent yn byw, i barchu barn y bobl leol, ni waeth a ydynt yn dewis enw brenhinol ai peidio ar y seilwaith sy'n rhoi hunaniaeth iddynt a'u cymunedau.