Part of the debate – Senedd Cymru am 6:36 pm ar 25 Ebrill 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A fo ben, bid bont, wrth gwrs, medd yr hen ddihareb yn y Mabinogi. Wel, wrth gwrs, yn sgil ymyriad Alun Cairns, efallai bydd rhaid inni wyrdroi hynny i: a fo bont, bid ben. Nawr, pam wnaeth e hyn? Pam wnaeth 40,000 o bobl arwyddo’r ddeiseb yn ei wrthwynebu? Rwy’n credu roedd John Griffiths yn iawn, wrth gwrs: mewn enw mae grym. Mae symbolau’n bwysig; maen nhw’n arwyddocaol achos maen nhw’n cario neges ynghylch pwy ydym ni. Dyna pam mae pobl yn poeni am y pethau yma, ac nid ydw i'n credu bod unrhyw beth anoddefgar ynghylch teimlo’n eithaf angerddol am beth mae hyn yn ei gynrychioli o ran ein gwerthoedd ni, fel roedd John Griffiths yn ei ddweud.
Nid wyf yn credu ei fod yn fater—rwy'n weriniaethwr hefyd—o p’un ai ydych chi’n weriniaethwr neu’n frenhinwr; mae’n fater ynglŷn ag a ydych chi’n ddemocrat, a dweud y gwir. Ble oedd llais pobl Cymru yn hyn o beth—yn y penderfyniad yna? Penderfyniad sydd wedi cael ei arosod arnom ni, wrth gwrs, fel rhywbeth mas o’r hen oes, a dweud y gwir—oes cyn datganoli, oes cyn democratiaeth. Dyna pam mae pobl yn ymateb ac yn dweud, ‘Nid yw hwn yn dderbyniol.’
Mae sawl cenedl yn y byd, wrth gwrs, wedi bod yn mynd trwy’r broses o ailenwi pethau er mwyn rhyddhau eu hunain o drefedigaethedd. Yng Nghanada yn ddiweddar, maen nhw wedi newid enw pont Langevin yn Alberta—gorthrymwr mawr y bobloedd brodorol—wedi troi yn bont 'cymodi'. Yn Awstralia, wrth gwrs, rŷm ni i gyd yn gwybod am Ayers rock wedi'i throi'n Uluru. Dim ond yng Nghymru, wrth gwrs, mae’r broses yn mynd i’r ffordd arall, yntefe? Fel roedd John yn cyfeirio at y Principality Stadium, mae nawr gyda ni'r bont. Rŷm ni'n dal yn colli enwau Cymraeg lleol, fel, wrth gwrs, rydym ni wedi bod yn ei wneud ers canrifoedd—proses digon tebyg i’r un ddigwyddodd yn Iwerddon. Cofiwch ddrama enwog Brian Friel, Translations, am rym enwi lleoedd. Mae’n rhan ganolog, a dweud y gwir, o ddeall pwy ydym ni a’n hanes ni.
Enwau lleoedd ydy’r man lle mae iaith a grym yn cwrdd. Mi oedd ail groesiad yr Hafren yn ddim ond pont, ond beth yw hi nawr? Mae’n symbol; mae’n symbol o’n diffyg awdurdod ni. Mae’n symbol o’n diffyg llais ni yn ein gwlad ein hunain, symbol o’n diffyg democratiaeth ni: hanner y bont yn Lloegr, ond 100 y cant o’r pŵer. Cymru sydd—[Torri ar draws.] Nid oes amser. Cymru sydd wedi talu rhan helaeth o’r tollau, ac eto ni chawsom siawns i leisio ein barn. Mae’n fy atgoffa o’r gofeb honno yn Calcutta—cofeb Victoria—wedi cael ei thalu, Dirprwy Lywydd, trwy danysgrifiadau gan yr Indiaid eu hunain. Ni a nhw, cyn hir, fydd yr unig bobl yn y byd sydd wedi talu am symbolau o’n darostyngiad ni ein hunain, ond gydag un gwahaniaeth mawr, wrth gwrs: maen nhw’n annibynnol. Brysied y dydd y bydd hynny’n wir am Gymru hefyd.