1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 1 Mai 2018.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau meddygon teulu locwm yng Nghymru? OAQ52065
Gwnaf. Bydd contractwyr ymarferwyr cyffredinol annibynnol a byrddau iechyd yn cyflogi meddygon teulu locwm lle bo angen gwasanaeth. Mae'n rhaid i feddygfeydd teulu sicrhau eu bod yn gymwysedig ac wedi eu cofrestru yn briodol.
Diolch yn fawr iawn. Wel, yn 2014, ysgrifennodd cadeirydd pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru at Aelodau yn galw am gamau brys i fynd i'r afael ag argyfwng cynyddol a oedd yn datblygu ym maes ymarfer cyffredinol. Yn 2016, ysgrifennodd is-gadeirydd pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru at yr Aelodau yn dweud eu bod yn ymwybodol iawn o ba mor fregus yw ymarfer cyffredinol yn y gogledd, lle mae rhai ardaloedd, fel Wrecsam, mewn perygl o golli mwy o feddygfeydd yn y dyfodol agos iawn. Ac, wrth gwrs, mae Gresffordd o dan fygythiad erbyn hyn. Yr wythnos diwethaf, dangosodd ffigurau newydd Llywodraeth Cymru bod nifer y meddygon teulu cofrestredig sy'n gweithio yng Nghymru ar ei lefel isaf ers 2013, gan fod 83 yn llai nag yn 2016 a 2017, ac ychydig dros hanner y meddygon teulu a adawodd y gweithlu yn ailymuno fel meddygon locwm. Sut, felly, ydych chi fel Llywodraeth yn ymateb i'r rhesymau a roddwyd i mi gan rai meddygon teulu locwm yn y gogledd bythefnos a hanner yn ôl am beidio â gweithio yng Nghymru fel: yswiriant diogelwch meddygol mwy fforddiadwy i feddygon locwm sy'n cyflawni sesiynau yn Lloegr nag yng Nghymru, yn ogystal â'r mater rhestr perfformiad ar wahân; biwrocratiaeth ychwanegol wrth ymdrin â chyfraniadau pensiwn; cwtogi cysylltiadau hyfforddiant gydag ysgolion meddygol y gogledd; y 'straen a'r perygl' o weithio yn y system yng Nghymru; systemau TG gwahanol ac eilradd, ac yn y blaen ac yn y blaen?
Mae'n wir bod defnyddio yr un ffynhonnell ddata â blynyddoedd blaenorol yn dangos gostyngiad o 83. Fodd bynnag, mae ystadegwyr wedi canfod problemau ansawdd gyda'r data, a allai olygu ei fod yn sylweddol is. A mesuriad mwy cyflawn o gapasiti meddygon teulu yng Nghymru yw cynnwys yr holl ymarferwyr cyffredinol, meddygon teulu locwm, ymarferwyr cyffredinol wrth gefn a chofrestryddion. Mae defnyddio'r dull hwnnw yn dangos y bu gostyngiad 0.3 y cant o oddeutu wyth ers 2016. Fodd bynnag, rwy'n falch iawn o ddweud, yn groes i'r argraff ddigalon, nad wyf yn meddwl sydd yn ddefnyddiol o gwbl, a roddwyd gan Mark Isherwood, ar ôl cwblhau bob un o dair rownd ein proses recriwtio 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' i swyddi ymarferwyr cyffredinol dan hyfforddiant, bod Deoniaeth Cymru wedi cadarnhau penodiad 144 o leoedd, sy'n fwy na'r 136 o leoedd hyfforddi a oedd ar gael ar ddechrau'r broses recriwtio, sy'n cymharu â 121 o leoedd a lenwyd yn dilyn tair rownd yn 2016. Mae hyn yn gynnydd o 19 y cant, yr wyf yn credu y gall pawb fod yn hapus dros ben yn ei gylch, ac mae'n gwbl groes i rywfaint o'r digalondid ac anobaith yr ydym yn ei glywed gan y meinciau gyferbyn.
Ysgrifennydd y Cabinet, onid yw'n wir mai un o'r problemau gyda meddygon teulu locwm yw'r ffaith nid yn unig eu bod yn gallu ennill £800 a mwy y dydd heb gyfrifoldebau rhedeg meddygfa, ond bod y system dreth y maen nhw'n gweithredu oddi tani yn golygu y gallan nhw, i bob pwrpas, drwy sefydlu fel menter gydweithredol, dalu dim ond 20 y cant o dreth a'r gweddill fel difidendau? A'r hyn y mae'r system locwm yn ei wneud, mewn gwirionedd, yw tanseilio meddygfeydd teulu. A yw'n wir bod y Llywodraeth yn gwneud sylwadau neu'n cael trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ynghylch newid y system dreth fel nad yw'n gallu gweithio yn y ffordd arbennig hon a'n bod ni'n rhoi cymorth i'r rheini sy'n ymgymryd â rhedeg meddygfa deulu yn barhaus, o ddydd i ddydd a'r ddarpariaeth feddygol hirdymor sydd ei hangen arnom gan ein meddygon teulu, yn hytrach na'r hyn sydd, yn ddealladwy, yn bobl sy'n gallu gweld telerau ac amodau ac enillion llawer gwell trwy ddod i mewn fel meddygon locwm?
Ydy, mae'n wir ei bod yn debygol bod cyflwyno IR35 yn y proffesiwn meddygol wedi arwain at feddygon teulu locwm yn ystyried eu materion trethiant. Nid yw polisi trethiant wedi'i ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ond mae'n effeithio, yn amlwg, ar ein gweithlu meddygon teulu yn yr un modd ag y mae yng ngweddill y DU. Nid yw'n gwbl eglur sut y mae'n effeithio ar benderfyniadau gyrfaol unigol gan feddygon teulu, ond mae llawer o ffactorau eraill ar waith ar hyn o bryd fel indemniad proffesiynol ac atebolrwydd y person diwethaf mewn practis a'r math yna o beth.
Wrth gwrs, mae gennym ni wahanol fodel yng Nghymru i gefnogi hyn hefyd, ac er bod y model ymarferydd annibynnol wedi ein gwasanaethu ni'n dda am flynyddoedd lawer, mae llawer o feddygfeydd teulu yn ei chael hi'n anodd ymateb yn y sefyllfa bresennol. Felly, rydym ni'n edrych ar wahanol ffyrdd o ddarparu hynny, gan gynnwys arferion cyflogi, a hwyluso staff locwm pan fo meddygon iau eisiau'r hyblygrwydd y mae bod yn feddyg locwm yn ei gynnig. Felly, rydym ni'n ystyried ffyrdd gwahanol iawn o ddarparu hynny, ochr yn ochr â'r arferion amlddisgyblaeth yr ydym ni hefyd yn ceisio eu cyflwyno mewn nifer fawr o feddygfeydd yng Nghymru.
Arwydd arall o'r pwysau ar ofal sylfaenol oedd pan ddangosodd y ffigurau hynny yr wythnos diwethaf bod nifer y meddygon teulu sy'n gweithio'n llawn amser yn ein meddygfeydd gofal sylfaenol yng Nghymru ar eu hisaf ers dros 10 mlynedd. Ac, mae'n ddrwg gen i, ond nid wyf i mor hamddenol â chi ynghylch hynny. Dywedasoch eto heddiw, fel yr ydym ni wedi ei glywed gan y Llywodraeth yn y gorffennol, 'Peidiwch â phoeni am nifer y meddygon teulu llawn amser; mae gennym ni ddigon o feddygon locwm.' Wel, mae arna i ofn nad yw hynny'n dderbyniol, oherwydd yr hyn sydd gennych chi mewn meddyg locwm yw rhywun a fydd yn fwy tebygol o weithio llai o oriau, am fwy o arian, ac mae'n tanseilio cynaliadwyedd y GIG. Onid yw'n hen bryd i ni weld camau pendant gan Lywodraeth Cymru i atal y llithriad tuag at weithio asiantaeth a gweithio locwm, ac i roi gofal sylfaenol ar sail fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol?
Wel, unwaith eto, rwy'n anghytuno â safbwynt Rhun ap Iorwerth ar hyn, oherwydd, fel y dywedais yn gynharach, mae nifer o ffyrdd o edrych ar faint o bobl sy'n gweithio fel meddygon teulu, fel meddygon teulu locwm, fel ymarferwyr cyffredinol wrth gefn, fel cofrestryddion meddygon teulu, yng Nghymru. Mae llawer o ganolfannau meddygol Cymru yn bractisau hyfforddi, sy'n gyfrifol am hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o feddygon teulu. Ac, fel y dywedais mewn ymateb i gwestiwn cynharach, rydym ni'n gwneud yn dda iawn o ran ein hyfforddiant—rydym ni'n recriwtio mwy nag erioed o'r blaen ac yn llenwi pob un o'n lleoedd hyfforddi, gan gynnwys mewn ardaloedd y bu'n anodd recriwtio ynddyn nhw yn y gorffennol, fel Ceredigion, ac yn y blaen. Felly, nid wyf i'n credu ei bod yn ddefnyddiol o gwbl cynnig y safbwynt negyddol yr ydych chi'n ei roi ar y mater, a'r hyn yr ydym ni wir eisiau ei wneud mewn gwirionedd yw hysbysebu'r ffaith fod cynifer o bobl yn hapus iawn o ganlyniad i'n hymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.', i ddod i lenwi ein lleoedd hyfforddi ac yna mynd ymlaen i weithio yng Nghymru.