Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 1 Mai 2018.
Diolch am yr ateb yna. Mae Cyngor Swydd Hampshire yn bwriadu ysgogi sgiliau seinydd cartref a weithredir gan y llais Amazon Echo i gynorthwyo gyda gofal cymdeithasol i oedolion. Gall y dechnoleg helpu pobl sy'n dioddef o salwch corfforol yn ogystal â helpu'r rhai sy'n dioddef o unigrwydd ac iselder. Yn ôl y cyngor, mae dros 9,000 o bobl yn elwa ar dechnoleg gynorthwyol fel Amazon Echo ar hyn o bryd, ac mae 100 o atgyfeiriadau newydd yn cael eu gwneud bob wythnos. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno eu treial eu hunain er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r galw am ofal cymdeithasol yn y gogledd?