Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 1 Mai 2018.
Y prosiect i ddeuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yw'r cynllun adeiladu ffyrdd mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd. Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth raglen gynhwysfawr ac adolygiad cost o'r prosiect oherwydd yr oedi o ran targedau cwblhau a chanddynt oblygiadau cost sylweddol. A wnaiff y Prif Weinidog dros dro nodi'r amserlen ar gyfer yr adolygiad hwn, ac a wnaiff hi ymrwymo ei Llywodraeth i wneud datganiad yn y Cynulliad ar y mater pwysig hwn cyn gynted ag y bydd yr adolygiad wedi ei gwblhau?