Gwella Cefnffyrdd yn Nwyrain De Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 1 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Steffan Lewis Steffan Lewis Plaid Cymru 1:56, 1 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol o sgandal iechyd y cyhoedd yr A472 rhwng Crymlyn a Hafodyrynys. Nid yw'n gefnffordd Llywodraeth Cymru, ond roeddwn i'n meddwl tybed a yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried ei hailddosbarthu fel cefnffordd Llywodraeth Cymru. Mae'n llwybr pwysig, wedi'r cyfan, i'r rhanbarth ac i'r ardal, ond yn bwysicach, gydag adnoddau Llywodraeth Cymru, efallai y gellid datrys problemau iechyd y cyhoedd y gefnffordd honno yn well.