Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 1 Mai 2018.
Wrth gwrs, dyna oedd holl bwynt y Bil anghenion dysgu ychwanegol—i roi cymorth i'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein system. Ond rwy'n credu ei bod hi'n dra rhyfeddol dweud nad arian yw'r broblem, ond polisi, oherwydd, wrth gwrs, mae'r polisïau ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol bob amser yn cynnwys cymorth ychwanegol i'r disgybl. Mae'n ffaith bendant mai'r mwyaf o anghenion dysgu ychwanegol sydd gan y disgybl, y mwyaf o gymorth sydd ei angen arno a'r mwyaf o arian y mae hynny'n ei gostio. Ond, wrth gwrs, rydym ni eisiau gwneud y gorau posibl i bawb yn ein system ysgolion, gan gynnwys y rhai sydd fwyaf agored i niwed a'r rhai ag anghenion ychwanegol, a dyna yw nod y ddeddfwriaeth.