Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Cymru

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 1 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:39, 1 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n cytuno bod yr arian sy'n dod o Lundain yn annigonol—byddem yn amlwg yn cytuno â hynny. Ond y cwestiwn, mewn gwirionedd, yw beth mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud i baratoi ar gyfer realiti y £344 miliwn ychwanegol hwn y bydd ei angen erbyn 2020? Nid yw pwyntio bys a beio pobl eraill yn ateb y cwestiwn mewn gwirionedd. Nawr, dim ond fis diwethaf hefyd, wrth gwrs, clywsom fod un o ddarparwyr gofal mwyaf y DU, Allied Healthcare, mewn trafferthion ariannol. Felly, yn ogystal â dweud wrthym beth arall fydd y Llywodraeth yn ei wneud i geisio mynd i'r afael â'r diffyg cyllid sylweddol, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y gwnewch chi sicrhau na fydd y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn dioddef o ganlyniad i broblemau parhaus Allied Healthcare?