Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 1 Mai 2018.
Rydym ni yn addysgu ffoneg yn ysgolion Cymru. Rwyf i wedi ymweld ag ysgolion yn bersonol a gwylio eu haddysgu ffoneg, felly rwy'n gwbl ymwybodol ein bod ni'n addysgu ffoneg eisoes. Rwy'n siŵr y gellid gwneud mwy i addysgu ffoneg i fwy o blant. Ond rwy'n credu bod yr ystadegau yr ydych chi'n eu dyfynnu braidd yn gamarweiniol gan fod y rhan fwyaf o blant dyslecsig yn cael amser ychwanegol ac yn sefyll gwahanol arholiadau. Felly, mae gen i ofn nad yw manylion hynny gen i ar flaenau fy mysedd, ond efallai pe hoffai arweinydd yr wrthblaid ganiatáu i ni weld yr ystadegau hyn y mae'n eu dyfynnu, yna byddwn yn gallu ymateb iddynt yn llawn.