Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 1 Mai 2018.
Diolch i chi, arweinydd y tŷ. Mae gan Gasnewydd hanes diwylliannol cyfoethog sy'n dyddio yn ôl 2,000 o flynyddoedd, ac yn cynnwys Caerllion, sef un o'r unig dri chaer parhaol ym Mhrydain Rufeinig, sy'n dyddio'n ôl i'r ganrif gyntaf AD. Mae'n gartref i'r amffitheatr fwyaf cyflawn yn y DU, baddonau caer trawiadol, ac unig weddillion barics y lleng Rhufeinig sydd i'w gweld unrhyw le yn Ewrop. Cyhoeddwyd ailddatblygiad yr Amgueddfa Lleng Rhufeinig yn yr adolygiad diweddar o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, ac mae'n gyfle i hyrwyddo a datblygu treftadaeth Rufeinig Caerllion ymhellach. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r amgueddfa a Cadw i ddenu ymwelwyr o bob cwr o Gymru a gweddill y byd?