Cyfradd Myfyrwyr sy'n Rhoi'r Gorau i'r Brifysgol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 1 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:13, 1 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y rhwystrau ariannol sy'n gallu atal pobl rhag mynd ymlaen i addysg uwch. Dyna pam, yn dilyn adolygiad Diamond, yr ydym ni wedi diwygio cymorth i fyfyrwyr, fel bod gan fyfyrwyr israddedig llawn amser a rhan-amser yr hawl i gael cymorth sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio.