Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 1 Mai 2018.
Rydym ni'n parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau gofal iechyd yn y canolbarth a'r gorllewin, gan gynnwys £3 miliwn yn ddiweddar ar gyfer Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg a £25 miliwn ar gyfer Ysbyty Cyffredinol Glangwili. Rydym ni hefyd yn buddsoddi £6.6 miliwn yn Ysbyty Coffa Rhyfel Llandrindod. Byddwn yn parhau i weithio gyda byrddau iechyd yn y rhanbarth i ddarparu gwasanaethau gofal iechyd sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i bob claf.