4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 1 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:38, 1 Mai 2018

Diolch am y datganiad. Mi fydd y fframwaith datblygu cenedlaethol yn gosod y strategaeth genedlaethol ar gyfer cynllunio ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf, fel rydych chi yn ei nodi. Felly, mae'n ofnadwy o bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori gymaint â phosib i sicrhau bod yr amcanion iawn yn cael eu gosod, a bod y strategaeth gywir mewn lle i gyflawni'r fframwaith. Ac, wrth gwrs, mi fydd yn rhaid i'r cynlluniau datblygu strategol, a chynlluniau datblygu lleol, gydweddu efo'r fframwaith—rheswm arall dros gael ymgynghoriad sydd yn un trwyadl yn yr ardaloedd gwledig, yn ogystal ag yn yr ardaloedd dinesig, ac efo grwpiau gwahanol o ddemograffig yng Nghymru hefyd.

Rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig ofnadwy ar y pwynt yma bod pobl Cymru—a'r awdurdodau lleol, mewn gwirionedd—yn deall beth ydy pwrpas y fframwaith datblygu cenedlaethol a'i berthynas o efo'r ddwy haen sy'n dod oddi tano fo. Mae o'n edrych yn rhywbeth hollol dechnegol a diflas ar yr wyneb, onid yw, ond rydw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig bod pobl yn deall bod hwn yn gosod allan y fframwaith ar gyfer datblygiad am gyfnod mor hir, a bod angen iddyn nhw fod yn rhan o'r broses. Felly, rydw i'n meddwl y byddai cael eglurhad o beth yn union ydy pwrpas hwn, reit ar y cychwyn fel hyn, yn fuddiol iawn.

Ac rydw i'n cytuno efo David Melding; mae angen dysgu gwersi o gynllun gofodol Cymru. Nid oeddwn innau, chwaith, yma yn 1999, ond rydw i'n cofio'r cyfnod yna, ac yn cofio ei fod o'n amhoblogaidd iawn, a'i fod o wedi achosi llawer o ddrwg-deimlad a gwrthwynebiad. Felly, gobeithio na fydd y fframwaith yma yn mynd i'r un cyfeiriad â'r cynllun hwnnw. Felly, a fedrwch chi roi sicrwydd fod yr ymgynghoriad yma yn mynd i fod yn ymgynghoriad yng ngwir ystyr y gair ac nid rhyw ymarferiad lle mai'r canlyniad terfynol a'r opsiwn a ffafrir—nid hwnnw fydd yn diweddu efo ni ar ddiwedd y dydd? 

Mae'r ddogfen yn sôn am, ac rydw i'n dyfynnu: 

'darparu cyfeiriad ar gyfer y tri rhanbarth sydd yng Nghymru—Gogledd Cymru, Canolbarth a De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru.' 

Rŵan, pwy sy'n dweud mai'r rheini ydy'r tri rhanbarth yma yng Nghymru? Mae'r fframwaith hefyd yn sôn am ganolbwyntio ar dai strategol, darparu seilwaith cydgysylltiedig mewn ardaloedd bargen ddinesig a bargen twf a chefnogaeth i ardaloedd gwledig. Rŵan, nid ydw i'n deall yn union beth mae hynny i fod i feddwl. Felly, ai'r bwriad ydy gorfodi awdurdodau lleol i weithio ar faterion sydd wedi cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru o fewn rhanbarthau sy'n cael eu gosod ac yn cael eu llywio gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig—yr ardaloedd dinesig ac yn y blaen, sydd, ar hyn o bryd, yn cael eu hefelychu hefyd gan Lywodraeth Cymru? 

Gan droi at faes y Gymraeg, wrth gwrs, mae diffyg tai fforddiadwy yn broblem ddifrifol mewn llawer o gymunedau, tra bod cymunedau eraill yn teimlo bod tai wedi cael eu hadeiladu yn y llefydd anghywir heb yr isadeiledd a'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar gyfer y twf mewn poblogaeth. Yr her fawr fydd y Cymry'n wynebu dros yr 20 mlynedd nesaf, wrth gwrs, ydy datblygu'r Gymraeg a gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn ffynnu, ac mae gan y system gynllunio ran i chwarae yn y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Ni fydd y potensial yma sydd gan y system gynllunio yn dod yn amlwg os nad ydy Llywodraeth Cymru'n darparu arweiniad cryf a chadarn yn y maes yma. Byddwn i'n awgrymu i gychwyn bod angen diwygio a chryfhau nodyn cyngor technegol 20, sy'n gwrth-ddweud Deddf Cynllunio (Cymru) 2015. Rydym ni wedi cael y drafodaeth yma o'r blaen, ond rydw i'n dal at hynny ac yn gobeithio bydd hwn yn rhoi cyfle i ni gael y drafodaeth yna unwaith eto.

Mae yna gyfle efo'r fframwaith i Lywodraeth Cymru roi arweiniad cryf i awdurdodau lleol o ran cynllunio ieithyddol. Felly, fy nghwestiwn olaf i ydy: a wnewch chi ddarparu sicrwydd y bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol yn cynnwys datganiad clir a chadarn a digamsyniol ynghylch pwysigrwydd a pherthnasedd y Gymraeg wrth gynllunio sut i ddefnyddio tir? Diolch.