Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 1 Mai 2018.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Yn dilyn arolygiad beirniadol gan Arolygiaeth Gofal Cymru o wasanaethau plant Cyngor Sir Powys, cyhoeddodd fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y pryd, hysbysiad rhybuddio i'r cyngor o dan Ran 8 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ar 16 Ebrill, cafwyd diweddariad gan fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ar gynnydd y camau gweithredu a oedd wedi deillio o'r hysbysiad rhybuddio.
Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal Cymru ei hadroddiad o'i harolygiad o wasanaethau oedolion ym Mhowys. Mae'r arolygiad yn tynnu sylw at feysydd o bryder sylweddol y mae angen i Bowys fynd i'r afael â nhw. Roedd yn glir yn yr adroddiad blaenorol ar wasanaethau plant ac yn adroddiad heddiw ar wasanaethau oedolion fod angen gwelliannau yn yr awdurdod yn ei gyfanrwydd er mwyn caniatáu ar gyfer gwelliannau mewn gwasanaethau cymdeithasol.
Ym mis Tachwedd y llynedd, cefais gais am gymorth ffurfiol gan arweinydd Powys, y Cynghorydd Rosemarie Harris. Yn dilyn hynny, fe wnes i arfer fy mhwerau o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 i ddarparu pecyn cynhwysfawr o gymorth i Bowys er mwyn helpu i sicrhau gwelliannau corfforaethol. Datblygwyd hyn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Ym mis Rhagfyr 2017, penodais Sean Harriss, prif weithredwr awdurdod lleol profiadol ac uchel ei barch, i gynnal adolygiad cyflym o'r cyngor. Rhoddais iddo'r dasg o bennu cwmpas y prif heriau a oedd yn wynebu'r cyngor a llunio adroddiad yn nodi ei ganfyddiadau a'r camau yr oedd eu hangen i fynd i'r afael â nhw. Cyhoeddwyd ei adroddiad, 'Adolygiad o Arweinyddiaeth, Llywodraethu, Strategaeth a Gallu', ym mis Chwefror 2018, a rhoddais ddiweddariad i'r Aelodau ar ei ganfyddiadau allweddol. Amlygodd yr adroddiad fod y cyngor wedi gwneud cynnydd ond ei fod yn dal i wynebu heriau sylweddol wrth gryfhau ei arweinyddiaeth a'i allu corfforaethol. Pwysleisiodd yr adroddiad hefyd y gellid goresgyn yr heriau hynny, ac rwy'n dyfynnu, drwy 'gynyddu capasiti a gallu yn yr awdurdod lleol, ynghyd â phecyn dwys o welliannau dan arweiniad y sector'.
Er mwyn sicrhau parhad a chysondeb, gofynnais i Sean Harriss barhau i weithio gyda Chyngor Sir Powys a goruchwylio ail gam o gymorth. Mae wedi rhoi cymorth i'r cyngor yn y meysydd allweddol canlynol: perfformiad ac ansawdd, gweledigaeth, newid sefydliadol, ac, yn olaf, cryfhau sefyllfa'r gyllideb.
Cawsom gyfarfod eto ddoe, a rhoddodd ddiweddariad ar y cynnydd ar ddiwedd ail gam y gwaith. Yn ôl ei asesiad ef, mae'n amlwg bod cynnydd wedi'i wneud, ond mae heriau sylweddol yn parhau, ac mae angen arweinyddiaeth gorfforaethol well er mwyn cyflawni a chynnal lefel y newid sydd ei hangen. Roedd y gofyniad hwn wedi'i adlewyrchu hefyd yn ei adroddiad ym mis Chwefror, a oedd yn argymell penodi prif weithredwr dros dro profiadol, â record wedi'i brofi o weddnewid.
Mae Cyngor Powys wedi bod yn cymryd camau yn dilyn yr argymhelliad hwn, a hoffwn longyfarch Mohammed Mehmet, cyn-brif weithredwr Cyngor Sir Dinbych, ar gael ei benodi'n brif weithredwr dros dro Cyngor Sir Powys. Mae ei hanes yn Sir Ddinbych yn siarad drosto'i hun, wedi iddo arwain y cyngor drwy gyfnod o her sylweddol i fod yn un o'r awdurdodau sy'n perfformio orau yng Nghymru. Gan fod prif weithredwr dros dro newydd wedi'i benodi, bydd amser a gwaith Mr Harriss gyda Phowys yn dirwyn i ben yn awr. Hoffwn ddiolch iddo am ei waith gyda'r cyngor, ond hefyd, Dirprwy Lywydd, hoffwn gydnabod gwaith David Powell, y prif weithredwr gweithredol, a'r ffordd gadarnhaol y mae'r cyngor, ei staff a'i aelodau wedi ymateb i'r heriau hyn.
Caiff arweinydd y cyngor a'r prif weithredwr dros dro newydd eu cefnogi gan fwrdd gwella a sicrwydd newydd, sydd wedi'i sefydlu â chylch gwaith ehangach ac sy'n disodli'r bwrdd gwella gwasanaethau cymdeithasol blaenorol. Rwy'n falch o ddweud bod Jack Straw, a gadeiriodd y bwrdd gwella gwasanaethau cymdeithasol, yn parhau yn gadeirydd.
Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Powys wedi penodi Bozena Allen, cyn-gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, yn aelod allanol gwasanaethau cymdeithasol, a Jaki Salisbury, cyn-brif weithredwr a chyfarwyddwr cyllid, yn aelod corfforaethol ar y Bwrdd. Byddan nhw'n darparu cymorth, her ac arweiniad i'r cyngor. Maen nhw'n arbenigwyr yn eu maes, ac mae ganddyn nhw hanes o weithredu llwyddiannus ac arwain sefydliadau yn ystod cyfnodau o weddnewid. Cynhaliodd y bwrdd ei gyfarfod cyntaf ddydd Mercher, 25 Ebrill, a bydd y bwrdd yn rhoi diweddariadau rheolaidd ar gynnydd ac yn rhoi cyngor ar ba gymorth pellach sydd ei angen dan arweiniad Llywodraeth Cymru neu'r sector.
Dirprwy Lywydd, rwy'n credu bod y camau gweithredu ar gyfer y cyngor yn amlwg. Mae'n rhaid iddo gyflawni'r cynllun gwella gwasanaethau cymdeithasol sydd ganddyn nhw ar waith ar gyfer gwasanaethau plant, a sicrhau bod cynllun tebyg yn cael ei weithredu ar gyfer gwasanaethau oedolion. Mae'n rhaid iddo hefyd gymryd y camau dilynol priodol yn unol â'r argymhellion yn adolygiad Sean Harriss o arweinyddiaeth, llywodraethu, strategaeth a gallu. Byddaf yn disgwyl i'r cyngor weithredu strategaeth ariannol tymor canolig gyfoes, gadarn a chynaliadwy, sy'n blaenoriaethu ei wariant ar wasanaethau allweddol, ac a all gyflawni'r pecyn o fesurau sydd ei angen i weddnewid y cyngor. Rwyf wedi darparu rhywfaint o fuddsoddiad i helpu yn hyn o beth.
Rwyf i wedi cyfarfod ag arweinydd y cyngor heddiw, ac mae hi wedi fy sicrhau ei bod yn ymrwymedig i gyflawni'r cynnydd a sicrhau bod Cyngor Sir Powys yn gallu cynnig y gwasanaethau o ansawdd uchel y mae gan bobl bob hawl i'w disgwyl. Ymunodd y Gweinidog Gwasanaethau Cymdeithasol â ni yn y cyfarfod hwnnw hefyd. Byddaf i a fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn parhau i roi diweddariadau i Aelodau ar y cynnydd a wneir. Diolch.