Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 2 Mai 2018.
Diolch. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi, os gwelwch yn dda, ynglŷn ag a fydd Llywodraeth Cymru yn cytuno i orchymyn cyfalafu a geisiwyd gan rai o'r cynghorau ar y bwrdd cysgodol. Rwy'n ceisio deall, pe bai'n mynd yn ei flaen, a fyddai unrhyw effaith andwyol ar y cynlluniau gwariant cyfalaf cyfredol y bydd busnesau wedi bod yn seilio eu cyfranogiad yn y fargen arnynt fel partneriaid uniongyrchol neu fel busnesau arfaethedig. Mae yna rywfaint o nerfusrwydd mewn rhai cylchoedd, ac rwy'n gobeithio efallai y gallwch dawelu'r nerfusrwydd hwnnw heddiw. Yn amlwg, nid wyf yn dadlau yn erbyn y gorchymyn, ond efallai y gallwch ddweud wrthym a yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn amrywiaeth o sylwadau ar y mater hwn gan fusnesau yn arbennig, yn amlwg, gan mai eich portffolio chi yw hwn. Ac a wnewch chi geisio sicrwydd y bydd unrhyw ganlyniadau negyddol anfwriadol wedi cael eu hystyried?