Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 2 Mai 2018.
Rydym wedi cynnal trafodaethau wyneb yn wyneb ag amrywiaeth o fusnesau o bob maint, o amrywiaeth o sectorau, mewn lleoliadau ar hyd a lled Cymru, gyda sefydliadau sy'n cynrychioli busnesau mawr, gan gynnwys Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach a Chonsortiwm Manwerthu Cymru. Rydym hefyd wedi defnyddio sianelau digidol a sianelau eraill i gyfathrebu'r cynllun yn fwy cyffredinol. Bydd y dull hwn yn parhau dros y misoedd nesaf.