Bargen Ddinesig Rhanbarth Bae Abertawe

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 2 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:09, 2 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Ysgrifennydd y Cabinet, fel rhan o'r fargen honno, yn amlwg mae Castell-nedd Port Talbot yn gyfrifol am rai o'r prosiectau hynny, ac mae'r ganolfan arloesi dur yn un ohonynt. Nawr, rwy'n deall bod cwestiynau'n codi ynglŷn â lle y caiff ei leoli ac mae yna bryderon fod Llywodraeth Cymru yn eu gwthio tuag at Felindre, sy'n bellach o gampws y brifysgol a Tata mewn gwirionedd, dau o bartneriaid pwysig y ganolfan arloesi. Nawr, mae'r sefydliad dur a metelau cyfredol wedi'i leoli ar gampws y brifysgol yn Singleton. Maent eisiau ei symud yn agosach. Mae tir ar gael, ac rwy'n deall mai tir Llywodraeth Cymru ydyw, ac rydym yn cael trafferth rhyddhau'r tir hwnnw. A wnewch chi edrych ar yr elfen hon i sicrhau, os yw'r tir hwnnw ar gael, eich bod yn gallu ei ryddhau i'r sefydliadau er mwyn sicrhau bod y ganolfan ymchwil dur wedi'i lleoli'n agos at y brifysgol ac yn agos at Tata, lle bydd o fudd mewn gwirionedd?