Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 2 Mai 2018.
Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch am y rhaglen dysgu creadigol mewn ysgolion, ond yr hyn a glywsom o dystiolaeth i'n pwyllgor oedd nad oedd ganddo unrhyw gysylltiad o gwbl â gwasanaethau cerdd ac mewn gwirionedd, nad oeddent yn gallu gwneud cais am unrhyw ran o'r cynllun hwnnw. Felly, roeddwn yn meddwl tybed, yn y dyfodol, a fyddech yn gallu edrych ar ddiwygio'r modd y mae hynny'n gweithio fel y gallai fod yn rhywbeth y gallai'r gwasanaethau cerddoriaeth fanteisio arno?