Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 2 Mai 2018.
Er bod y Goruchaf Lys wedi dweud nad yw confensiwn Sewel yn rhwymol yn gyfreithiol, mae hefyd wedi pwysleisio bod y confensiwn yn chwarae rhan sylfaenol yng nghyfansoddiad y DU. Rydym yn disgwyl i'r Senedd barchu ewyllys y Cynulliad, a pheidio â bwrw ymlaen â deddfwriaeth sy'n addasu cymhwysedd y Cynulliad, neu'n effeithio ar faterion datganoledig, heb gydsyniad y Cynulliad.