Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:41 pm ar 2 Mai 2018.
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. rwyf wedi dechrau ystyried sut y gellid defnyddio technoleg i'n helpu i wneud cyfraith Cymru yn haws i ddod o hyd iddi a'i deall. Cefais gyfarfod yn ddiweddar â'r Archifau Gwladol a barnwr Goruchaf Lys British Columbia i drafod cyfraith fel math o ddata a sut y gallai deallusrwydd artiffisial wneud y gyfraith yn fwy hygyrch ac yn haws ei gweinyddu.