Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 2 Mai 2018.
Roedd dyfarniad Miller yn glir iawn nad oedd confensiwn Sewel yn draddodadwy, ni allai fod yn sail i'r cais yn y llys. Ond roedd hefyd yn glir iawn fod iddo'r pwys gwleidyddol cryfaf posibl, ar wahân i fod ar gael fel sail i gais. Ac fel y soniais yn fy ateb i gwestiwn blaenorol, roedd y Goruchaf Lys yn ystyried honno fel nodwedd barhaol o'r setliad datganoli. Cyn i gonfensiwn Sewel gael ei ymgorffori mewn statud, roedd wedi'i ddefnyddio tua 100 o weithiau, rwy'n credu—y ceisiadau a wnaed i'r Siambr hon—ac ni chawsant eu diystyru gan Senedd y DU pan dderbyniodd y Llywodraeth yn y DU fod angen cydsyniad. Felly, mae cryfder confensiwn Sewel wedi'i hen sefydlu.
Mae'r pwynt y mae'n ei wneud yng nghyswllt y penderfyniad cydsynio—mae'r iaith yn y gwelliant yn cyfeirio at benderfyniad cydsynio, h.y. y pwynt pan fo'r Cynulliad hwn neu Senedd yr Alban yn gwneud penderfyniad naill ai i roi cydsyniad neu i beidio â chydsynio. Mae hynny'n ymwneud ag amserlennu sut y gall y Gweinidogion yn San Steffan gyflwyno rheoliadau yno. Mae'n gwbl glir yn y cytundeb rhynglywodraethol y bydd rheoliadau'n ddarostyngedig i gonfensiwn Sewel, h.y. na fydd Senedd y DU fel arfer yn ceisio deddfu heb gael cydsyniad y lle hwn.