Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 2 Mai 2018.
Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae'n codi nifer o bwyntiau diddorol iawn. Ceir her a chyfle sylfaenol i'r sector gwasanaethau cyfreithiol ar draws y byd yn y mathau o bethau y mae'n eu disgrifio, o ran creu contractau clyfar, ond hefyd, fel y mae ei gwestiwn yn awgrymu, yn y gallu i ymchwilio darnau enfawr o ddata a chyfraith a chyfraith achosion mewn ffordd gadarn a dibynadwy. Fel y mae'n digwydd, mae'r sgyrsiau a gefais yn awgrymu bod hynny'n anos ei gyflawni wrth ymchwilio i ddeddfwriaeth ei hun. Ond un o'r pethau rwyf wedi bod yn awyddus iawn i'w wneud, wrth feddwl ynglŷn â sut y gallwn wneud cyfraith yn fwy hygyrch i bobl yng Nghymru yn gyffredinol, yw ystyried bod cyflymder y newid yn y maes hwn mor sylweddol fel ein bod mewn perygl o lunio ateb technolegol gwell heddiw ar gyfer yr heriau a oedd gennym 10 mlynedd yn ôl, yn hytrach na meddwl ymlaen at sut olwg fydd ar y byd ymhen 10 mlynedd. Nawr, mae honno'n her uchelgeisiol, ac nid wyf am un eiliad yn awgrymu ei bod yn syml—yn sicr, nid yw'n syml.
Mae'n crybwyll Seland Newydd yn ei gwestiwn. Mae un o'r trafodaethau a gefais gyda'r Archifau Gwladol yn ymwneud â sut y gall deddfwrfeydd ddeddfu mewn cod ac ar ffurf data, ac felly, lle mae gennych ddeddfwriaeth treth, er enghraifft, neu ddeddfwriaeth budd-daliadau, mae'r ddeddfwrfa'n pasio cod y gellir ei droi'n ffurflenni ar amrantiad a'i fod ar gael i'r cyhoedd yn y ffordd awdurdodol honno. Mae hynny'n amlwg yn creu beichiau newydd ar unrhyw ddeddfwrfa ac mae angen ei ystyried yn ofalus iawn. Mae gennyf gyfarfod wedi'i drefnu gyda Google yn yr wythnosau nesaf i drafod a ydynt yn gweithio gyda phartneriaid eraill ledled y byd ar arloesedd yn rhai o'r meysydd hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cael cynifer o ffynonellau o ysbrydoliaeth gan gynifer o awdurdodaethau gwahanol ag y bo modd ar gyfer yr hyn y gobeithiwn allu ei gyflawni yn y tymor hir yma yng Nghymru.