Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 2 Mai 2018.
Wel, rwyf am amlinellu'r sefyllfa, a buaswn yn hapus iawn i gymryd cwestiynau pellach os yw'r Dirprwy Lywydd yn barod i'w derbyn. Y cwestiwn yw hwn: mae'r 26 o feysydd y mae'r cytundeb yn eu sefydlu fel y meysydd a allai fod yn ddarostyngedig i reoliadau yn glir. Yr hyn na fu mor glir, mewn gwirionedd, yw'r pwerau ychwanegol a arferir yng Nghymru yn hytrach nag ar lefel yr Undeb Ewropeaidd o ganlyniad i wrthdroi effaith cymal 11. Fe fydd hi'n gwybod, wrth gwrs, mai effaith wreiddiol cymal 11 oedd cadw'r pwerau hynny i gyd yn San Steffan yn y bôn, ac mae effaith gwrthdroi cymal 11 yn golygu y bydd pwerau yr arferid eu harfer ym Mrwsel o'r blaen yn cael eu harfer yng Nghymru, a hynny mewn ystod eang o feysydd gan gynnwys pethau fel dal a storio carbon, caniatâd cynllunio ynni, trwyddedu hydrocarbon, ansawdd aer, bioamrywiaeth, amgylchedd morol, a llu o feysydd eraill. Mae'r meysydd hyn i gyd yn feysydd a fydd bellach yn cael eu harfer yng Nghymru yn hytrach nag ym Mrwsel, fel rwy'n dweud.
O ran y rheoliadau i roi'r meysydd polisi penodol yn y rhewgell, sef yr iaith a ddefnyddiwyd, fel y bydd yn gwybod, bydd y rheoliadau hynny'n dod i'r Cynulliad er mwyn i'r Aelodau yma roi cydsyniad i'r rheoliadau hynny, neu fel arall. [Torri ar draws.] Fel y mae hi hefyd yn gwybod, nid yw confensiwn Sewel, sef sail ein setliad datganoli—rwy'n amlwg yn ymwybodol nad yw hi na'i phlaid yn hapus gyda hwnnw—yn draddodadwy, nid yw'n bosibl gweithredu ar ei sail yn y llys. Ond fel y gwyddom hefyd, o benderfyniad Miller yn y Goruchaf Lys, mae'n gonfensiwn gwleidyddol cryf iawn sy'n cael ei ystyried gan y Goruchaf Lys yn rhan barhaol o'n setliad datganoli.