Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 2 Mai 2018.
Yn amlwg, byddai gweithredu'n groes i gydsyniad y Cynulliad yn achosi argyfwng cyfansoddiadol, felly nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Mae'r cytundeb, sy'n gytundeb gwleidyddol—er bod ganddo elfennau cyfreithiol: y gwelliannau eu hunain, y cyfeiriad at y Goruchaf Lys; afraid dweud bod y rheini i gyd yn gamau cyfreithiol—mewn gwirionedd, mae'r cytundeb yn cynnwys cymhwyso confensiwn Sewel i'r pwerau gwneud rheoliadau, rhywbeth nad oedd yn nodwedd o gonfensiwn Sewel yn flaenorol. Yn wir, mae'n mynd y tu hwnt i hynny ac mae'n nodi proses benodol ar gyfer trafod a chymeradwyo'r rheoliadau hynny yn y Senedd. Felly, mae'n gytundeb gwleidyddol, o reidrwydd mae'n gytundeb gwleidyddol, ond mae'n cynnwys camau cyfreithiol penodol iawn y disgwyliwn iddynt gael eu cyflawni.