Part of the debate – Senedd Cymru am 2:45 pm ar 2 Mai 2018.
Ddirprwy Lywydd, hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 13.9(ii), (iii) (iv) a (vi)—rhwystro busnes y Cynulliad; ceisio codi mater sydd y tu hwnt i gwmpas y ddadl; sy'n euog o ymddygiad anghwrtais neu amhriodol; sy'n gwrthod cydymffurfio ag unrhyw Reol Sefydlog neu ag unrhyw ofyniad arall ynglŷn ag ymddygiad—ac o bosibl mewn perthynas â Rheol Sefydlog 15.1 ar y 'dogfennau canlynol' i'w gosod yn y lle hwn, ac o bosibl gallai fod Rheolau Sefydlog eraill nad wyf eto wedi gallu edrych arnynt.
Fel pob un o'r Aelodau, rwyf wedi derbyn deunydd a ddosbarthwyd yn ddigymell, deunydd yr ystyriaf ei fod yn dramgwyddus, gan UKIP yn y Siambr hon. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, ni roddwyd unrhyw awdurdod gennych chi i ddosbarthu neu osod y deunydd hwn. Mae'n amlwg wedi'i fwriadu ar gyfer dylanwadu ar ddadl benodol ac mae'n amherthnasol i'r ddadl benodol honno. Nid oes gennym syniad beth yw ei statws. Rwy'n ei ystyried yn ymddygiad sarhaus ac anghwrtais a buaswn yn ddiolchgar pe baech yn rhoi eich dyfarniad ar y mater hwn.