Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 2 Mai 2018.
Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am gydgyflwyno'r cynnig hwn, a fy nghyd-Aelodau ar draws y Siambr sydd wedi ei gefnogi. Mae tlodi misglwyf yn digwydd pan fo menywod a merched yn cael trafferth i dalu am gynhyrchion misglwyf hanfodol yn fisol gan effeithio'n sylweddol ar eu hylendid, eu hiechyd a'u lles.
Dengys canfyddiadau'r elusen Plan International UK fod un o bob 10 merch wedi methu fforddio cynhyrchion misglwyf. Mae un o bob saith merch wedi gorfod gofyn am gael benthyg cynhyrchion misglwyf gan ffrind oherwydd problemau gyda fforddiadwyedd, ac mae mwy nag un o bob 10 merch wedi gorfod addasu cynhyrchion misglwyf oherwydd problemau gyda fforddiadwyedd. Mae diddordeb cynyddol y cyhoedd a'r byd gwleidyddol yn y mater wedi dangos y ffaith syfrdanol fod cynhyrchion misglwyf sylfaenol i fenywod yn anfforddiadwy bellach i ormod o fenywod a merched.
Mae gennym dystiolaeth anecdotaidd o famau'n mynd heb eitemau misglwyf er mwyn eu prynu ar gyfer eu merched yn lle hynny; o fenywod sy'n ddigartref yn gorfod addasu drwy ddefnyddio carpiau budr, sanau a hyd yn oed papur newydd; o ferched o deuluoedd incwm isel yn colli ysgol pan gânt eu misglwyf oherwydd yr her o ymdopi oddi cartref heb ddigon o gynhyrchion misglwyf.
Clywsom hefyd gan Ymddiriedolaeth Trussell a ddatgelodd yr wythnos diwethaf ei bod wedi gweld y cynnydd mwyaf erioed yn y ffigurau banciau bwyd ar gyfer 2017-18, a bod mwy a mwy o fenywod yn ei chael yn anodd fforddio cynhyrchion misglwyf sylfaenol ac yn dibynnu ar roddion, gyda rhai'n dewis mynd heb gynhyrchion misglwyf ar eu cyfer hwy eu hunain er mwyn rhoi bwyd ar y bwrdd.
Ond ceir effeithiau difrifol i iechyd corfforol a meddyliol menywod nad ydynt yn gallu rheoli eu misglwyf yn hylan bob mis. O heintiau y gellir eu hachosi drwy gael eu gorfodi i fyw ar un neu ddau o damponau i deimlo'n gaeth dan do er mwyn bod yn agos at doiled, ac o deimlo gormod o embaras a chywilydd i ofyn am help.
Mae tlodi misglwyf yn ymdrech breifat iawn ac yn ganlyniad cyni cudd nad yw wedi taro ymwybyddiaeth y cyhoedd hyd nes yn ddiweddar. Rhaid inni ei amlygu fel mater iechyd, hylendid ac anghydraddoldeb hefyd. Ond rwyf hefyd am i'r ddadl hon gydnabod bod gennym gyfrifoldeb clir i fenywod a merched yng Nghymru i ddatblygu urddas misglgwyf fel rhan o'n hymrwymiad i gydraddoldeb rhwng y rhywiau.
Yn anffodus, mae stigma ynghlwm wrth y mislif, er ei bod yn broses naturiol a phwysig. Mae'n anghredadwy fod y misglwyf wedi bod, ac yn parhau i fod, yn fater tabŵ. Yn wir, roedd cenedlaethau hŷn yn aml yn cyfeirio at y mislif fel 'melltith'. Hyd yn oed heddiw, rydym yn defnyddio mwytheiriau am y misglwyf ac yn ei fychanu; soniwn am 'fod ar' fel bod menywod a merched, yn ogystal â methu fforddio eitemau hylendid, yn teimlo gormod o embaras neu gywilydd i ddweud eu bod yn cael eu misglwyf.
Mae hyn yn hynod o anodd i ferched a menywod ifanc, ac mae'n dechrau yn yr ysgol gynradd a thrwodd i'r ysgol uwchradd. Felly, yn ogystal â siarad am dlodi misglwyf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn siarad ac yn defnyddio'r cyfle i drafod a thynnu sylw at urddas misglwyf. Amlygodd yr adroddiad dadlennol gan weithgor craffu Cyngor Rhondda Cynon Taf, a sefydlwyd i ymdrin â darpariaeth rad ac am ddim ar gyfer y misglwyf mewn ysgolion, rai o'r pryderon a godwyd gan ferched ysgol am urddas misglwyf a stigma, gyda rhai ohonynt yn dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Mae bechgyn yn gwneud hwyl am ein pennau os ydynt yn ein gweld yn mynd i'r toiled gyda'n bagiau—mae'n creu embaras.
'Byddai'n well gennyf fynd adref' na gofyn i athro neu athrawes am gynhyrchion misglwyf, yn enwedig athro gwrywaidd. 'Mae bechgyn yn aeddfedu'n ddiweddarach', mae angen rhoi'r mislif mewn persbectif gan eu bod yn mynd i fod yn bartneriaid yn y dyfodol, yn dadau, yn gyflogwyr a rhaid cael gwared ar y stigma. Mae angen iddynt sylweddoli mai un o weithredoedd normal y corff ydyw a'r effaith y gall ei chael ar fenywod.
Dyna pam mae'r cynnig heddiw yn gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried galwadau i wella ymwybyddiaeth y cyhoedd ac addysg ar iechyd a lles mewn perthynas â'r mislif, gan fynd i'r afael â stigma sy'n dal i fod yn gysylltiedig â'r mislif ac agor sgwrs naturiol a chenedlaethol am y misglwyf.
Fodd bynnag, rwy'n croesawu'n fawr iawn ymateb diweddar Llywodraeth Cymru i dlodi misglwyf, gyda'r cyhoeddiad y bydd awdurdodau lleol yn derbyn £440,000 dros y ddwy flynedd nesaf i fynd i'r afael â thlodi misglwyf yn eu cymunedau drwy ddarparu cynhyrchion misglwyf i'r menywod a'r merched sydd fwyaf o'u hangen, a gellid gwneud hyn drwy grwpiau cymunedol, ysgolion neu fanciau bwyd. Ac yn bwysicaf oll, bydd £700,000 o gyllid cyfalaf ar gael i wella cyfleusterau ac offer mewn ysgolion. Mae'n arbennig o galonogol nodi y gellir defnyddio'r cyllid hwn mewn ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd. Mae hyn yn cydnabod ymchwil sy'n dangos bod mwy o ferched yn dechrau eu misglwyf yn iau, ac nid oes gan rai ysgolion cynradd y cyfleusterau sydd eu hangen arnynt.
Ar y pwynt hwn, hoffwn ganmol ymdrechion fforwm menywod a chynghorwyr Llafur lleol ym Mro Morgannwg, sydd wedi bod yn gweithio'n galed ers y llynedd i godi ymwybyddiaeth o dlodi misglwyf a gwneud yn siŵr fod darparu cynhyrchion misglwyf rhad ac am ddim mewn ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd ym Mro Morgannwg ar agenda'r cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Margaret Wilkinson:
Mater tlodi yw hwn. Mae'n broblem gudd a thawel. Nid yw merched eisiau siarad am y peth.
Dywedodd y Cynghorydd Jayne Norman o blaid Llantwit First:
Mae'r mislif yn effeithio ar bob menyw. Nid oes gennym ddewis yn y mater... I ormod o fenywod ifanc a merched, mae cyfaddef eu bod hyd yn oed yn cael eu misglwyf yn ddigon o embaras, heb orfod cyfaddef na all eu teulu fforddio prynu'r cynhyrchion misglwyf sydd eu hangen arnynt. Y cynhyrchion sy'n caniatáu iddynt gael yr hawl i urddas a llesiant.
Hefyd, hoffwn ganmol gwaith rhagorol sefydliadau Cymreig megis Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth Trussell a llawer o rai eraill, ac rwy'n siŵr y byddwn yn clywed amdanynt y prynhawn yma, sefydliadau sy'n codi ymwybyddiaeth am y mater hwn a helpu i fynd i'r afael ag ef.
Mae distawrwydd yn atal cynnydd ac rwyf mor falch ein bod yn torri'r tabŵ ac mae'n dda gweld cymaint yn aros yn y Siambr y prynhawn yma i rannu ac ystyried y mater hwn, er mwyn mynd i'r afael â sgandal anweledig tlodi misglwyf a diffyg urddas misglwyf drwy fod yn rhan o'r ddadl hon yn y Cynulliad heddiw, ac edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau. Diolch.