Part of the debate – Senedd Cymru am 3:38 pm ar 2 Mai 2018.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n bleser gennyf i gloi'r ddadl, a diolch yn fawr iawn i Jane Hutt am ofyn i mi wneud hynny. Mi gychwynnodd Jane drwy drafod y stigma sydd ynghlwm â'r mislif, yn ogystal â fforddiadwyedd cynhyrchion hylendid, ac, wrth gwrs, mae'r cynnig yn sôn am wella ymwybyddiaeth ac addysg ynglŷn â'r mislif a thorri'r tabŵ. Rydw i'n meddwl bod y ffaith ein bod ni'n trafod y pwnc yn y Siambr yma heddiw yn cychwyn ar y daith honno o dorri'r tabŵ. Nid yw Leanne yn ein cofio ni'n cael trafodaeth ar y mislif yn y Siambr yma o'r blaen. Nid wyf i wedi bod yma mor hir â hynny, ond rydw i'n cymryd nad oes yna ddim trafodaeth o'r math yma wedi bod tan rŵan, felly rydym yn y broses o dorri'r tabŵ yn trafod y mater fel yr ydym ni heddiw.
Mi wnaeth Leanne ein hatgoffa bod diffyg cynhyrchion hylendid mislif yn yr ysgolion, a'r ffaith bod merched yn cael trafferthion yn prynu'r defnyddiau yma, yn arwydd o dlodi a bod tlodi yn achos ffeministaidd a bod rhaid mynd at wraidd y broblem a thaclo'r broblem a thaclo tlodi fel rhan o hynny, a dyna pam mae angen strategaeth lawn i daclo tlodi. Mi soniodd Leanne hefyd am bwysigrwydd addysg rhyw a pherthnasoedd iach ac mae hwn yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi bod yn ei drafod ers rhai blynyddoedd, rwy'n credu—pwysigrwydd hynny. Rwy'n falch iawn o glywed y prynhawn yma gan arweinydd y tŷ y bydd yna ddatganiad ar y mater yna yn ystod y mis yma, felly edrychwn ni ymlaen at hynny.
Mi wnaeth Caroline atgyfnerthu'r ddadl ac, yn wir, rwy'n cytuno—mae'n anodd credu bod tlodi mislif yn digwydd yn 2018. Mi soniodd Vikki Howells am y grŵp ymchwil—y grŵp tasg—yn Rhondda Cynon Taf, a buaswn i hefyd yn hoffi cyfeirio at waith y grŵp tasg yna a hefyd i ddiolch i'r cynghorydd Elyn Stephens a chriw Plaid Cymru ar gyngor Rhondda Cynon Taf am arwain ar hyn drwy Gymru, a hynny o'r cychwyn cyntaf. Dair blynedd yn ôl, fe gyflwynodd Elyn gynnig i gynhadledd Plaid Cymru ar ôl trafod y mater efo Plaid Ifanc tra roedd hi'n aelod o'r mudiad hwnnw. Roedd Elyn ei hun wedi dioddef o dlodi mislif ar ôl cael ei magu gyda'i dwy chwaer gan ei mam, a oedd yn rhiant sengl a oedd yn dibynnu ar fudd-dâl anabledd ar gyfer cynnal y teulu. Meddai Elyn, 'Roeddem ni'n wynebu'r dewis o brynu bwyd, gwresogi, dillad neu gynhyrchion hylendid mislif, a'r olaf oedd yn colli allan bob tro.'
Ar ôl i Elyn gael ei hethol fel cynghorydd yn mis Mai y flwyddyn ddiwethaf, mi aeth hi ati i geisio cael y maen i'r wal efo cael defnyddiau hylendid mislif am ddim yn ysgolion Rhondda Cynon Taf. Ni chafodd y cynnig a wnaeth hi roi gerbron y cyngor ddim ei basio'r tro cyntaf, ac yn wir, mae hi wedi dweud wrthyf fi ei bod hi, y noson, honno, wedi cael negeseuon gan gyd-cynghorwyr yn dweud wrthi nad oedd hi ddim wedi gwneud digon o ymchwil, ac mae'n siŵr bod pobl yn gallu fforddio 50c am dampon, a'r math yna o ymagwedd. Dyna oedd yr agwedd ar y cychwyn. Ond mi wnaeth hi ddyfalbarhau ac mi wnaeth y cyngor gyfeirio'r mater i'r pwyllgor craffu ar gyfer gwneud mwy o ymchwil. Pedair o gynghorwyr Plaid Cymru a wnaeth y gwaith yma, gan anfon holiaduron i fenywod ifanc mewn ysgolion ar draws yr ardal. Mae Vikki Howells wedi sôn am rhai o ganlyniadau'r gwaith ymchwil yna, ond mi oedd pethau fel hyn yn cael eu dweud gan y menywod a oedd yn cymryd rhan yn yr arolwg: 'Nid yw mislif byth yn cael ei drafod yn yr ysgolion', 'Nid ydyn nhw'n dweud wrthym bod gennym ni hawl i gael cynhyrchion hylendid oni bai bod yna ddamwain yn digwydd', a'u bod nhw ddim yn teimlo'n gyfforddus yn gofyn i athrawon gwrywaidd i gael cynhyrchion.