Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 2 Mai 2018.
Diolch. I fynd â chi yn ôl ychydig eiliadau ar gwestiwn pwerau, oherwydd rwyf wedi drysu braidd. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd pwerau mewn meysydd—maent yn feysydd datganoledig—ond bydd pwerau a ddelir ym Mrwsel ar hyn o bryd o ganlyniad i'r cytundeb hwn yn dod i'r Cynulliad hwn, yn hytrach nag i San Steffan. Felly, sut y gallwch ddweud na ddaw unrhyw bwerau ychwanegol i'r Cynulliad hwn? Byddant yn dod.