Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 2 Mai 2018.
Diolch. Rydym wedi clywed y siarad dwbl Orwellaidd y mae'r Llywodraeth hon wedi ei ddefnyddio i gyfiawnhau ei hildiad, a'r modd y cawsom ein cyhuddo o chwifio baner cenedlaetholdeb. Wel, buaswn o leiaf yn dweud nad baner wen yr ildiwr yw ein baner ni.
Heddiw, rwy'n mynd i ddadelfennu'r cytundeb hwn. Rwyf am ei dynnu'n ddarnau, ddarn wrth ddarn, ynghyd â'r cyfiawnhad afresymegol a roddwyd dros ymrwymo iddo. Fel bod meinciau'r Llywodraeth yn deall, fe rannaf fy nghyfraniad yn dair rhan glir. Yn gyntaf, fe amlinellaf faint eu henciliad ac ehangder eu rhagrith drwy dynnu sylw at ddatganiadau a wnaed cyn y cytundeb a sut y maent yn cymharu â'r cytundeb ei hun. Yna, fe symudaf ymlaen at sylwedd y cytundeb a'r gwelliannau, gan amlinellu sut y mae eu cytundeb gyda'r Torïaid yn peryglu egwyddor datganoli mewn modd sylfaenol iawn. Yn olaf, fe amlinellaf beth y mae'r cytundeb yn ei olygu ar gyfer dyfodol datganoli, ac yn sylfaenol sut y mae'n effeithio ar bobl yma yng Nghymru.
Mae'n wirioneddol ddrwg gennyf ddweud nad oes ond un gair i ddisgrifio ymagwedd y Llywodraeth hon: rhagrith. Ddoe yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog darllenais ddyfyniad gan y Prif Weinidog yn ymwneud â'i wrthwynebiad ar y pryd i'r Bil ymadael. Gan nad oedd yno ar y pryd, hoffwn ei atgoffa o'r hyn a ddywedodd ar 27 Tachwedd 2017. Dywedodd:
ni fyddem yn derbyn cymal machlud. Pwy sydd i ddweud na fyddai'n cael ei ymestyn yn ddi-ben-draw yn y dyfodol? Mae'n fater o egwyddor.
Bellach, mae cymal machlud pum mlynedd yn rhan o'r ddeddfwriaeth y mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo iddi. Ym mis Ionawr eleni, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol erbyn hyn:
Ni chredaf am eiliad fod greddf Llywodraeth San Steffan na'r Prif Weinidog o blaid unrhyw broses a fyddai'n caniatáu'n hawdd i Gymru gael y pwerau o Frwsel yr ydym yn eu haeddu ac y mae gennym hawl iddynt.
Mae'r ddeddfwriaeth yr ydych bellach wedi ymrwymo i'w chefnogi yn golygu bod 24 o feysydd polisi datganoledig yn symud dan reolaeth San Steffan. Gadewch imi fynd ag Ysgrifennydd y Cabinet yn ôl i'r adeg pan oeddem yn gyd-awduron 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Y pryd hwnnw, roedd safbwynt y Llywodraeth yn wahanol iawn. Ar dudalen 28 y Papur Gwyn hwnnw mae'n dweud mai ei pholisi craidd
'yw na ddylai ymadawiad y DU o’r UE arwain at Lywodraeth y DU yn crafangu pwerau datganoledig yn ôl. Bydd unrhyw ymgais o’r fath yn cael ei gwrthwynebu’n gadarn gennym.'
Mae 'gwrthwynebu' i'w weld yn gyfystyr ag 'ildiad' yn thesawrws Ysgrifennydd y Cabinet. Gadewch imi egluro pam fod ildio un pŵer yn wan ac ildio 26 o feysydd polisi cyfan yn druenus. Ceir nifer bron yn ddi-ben-draw, i ddyfynnu Prif Weinidog Cymru, o enghreifftiau sy'n amlygu rhagrith Llafur, ond tynnaf sylw at un arall yn unig. Yr wythnos diwethaf, yn ei ddatganiad i'r Cynulliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet
'Byddai wedi bod yn well gennym pe na bai yna gymal 11' wedi'i gynnwys yn y Bil hwn. Drwy gytuno i gytundeb gyda'r Torïaid yn San Steffan, cael gwared ar y Bil parhad ac ildio ein holl ddylanwad i bob pwrpas, mae wedi sicrhau bod yr hyn a fyddai wedi bod orau ganddo bellach wedi'i golli.
Dywed y Blaid Lafur yn yr Alban fod y Bil hwn yn ddiffygiol. Credai ef ei hun ei fod yn ddiffygiol. Mae aelodau ei feinciau cefn ei hun yn meddwl ei fod yn ddiffygiol. Eto, mae'r Llywodraeth hon wedi ein bradychu. Mae'n embaras fod y Llywodraeth hon wedi dweud y pethau a wnaeth a bellach yn ceisio dweud wrth bobl Cymru ei bod wedi sicrhau cytundeb da. Roedd gennych bryd o fwyd seren Michelin ac rydych wedi gwneud stomp ohono. Ni fyddwn yn anghofio, ac ni wnaiff pobl Cymru anghofio chwaith.
Gadewch imi droi at ail bwynt fy araith, sef sylwedd y cytundeb amheus hwn. Mae dwy ran iddo: cyfres o welliannau i'r ddeddfwriaeth a chytundeb gwleidyddol heb unrhyw bwysau cyfreithiol. Fe soniaf am y gwelliannau yn gyntaf. Cydsyniad, cytundeb, y weithdrefn gadarnhaol—nid yw'n gysyniad anodd. Mae 'ie' yn golygu 'ie', mae 'na' yn golygu 'na'. Fodd bynnag, ym myd pen-i-waered Llywodraeth Cymru, mae 'ie' yn golygu 'ie', a 'na' bellach hefyd yn golygu 'ie'.
Er mwyn inni fod yn glir, gadewch imi ddarllen, air am air, union eiriad y gwelliant y mae'r Llywodraeth yn argymell ein bod yn ildio iddo. Gwelliant 89DA, a gyflwynwyd yn enw'r Arglwydd Callanan, adran 2(4), yn y cyfeiriad at is-adran (3)— penderfyniad cydsynio yw:
(a) penderfyniad i dderbyn cynnig yn cydsynio i osod y drafft, (b) penderfyniad i beidio â derbyn cynnig yn cydsynio i osod y drafft, neu (c) penderfyniad i dderbyn cynnig yn gwrthod cydsynio i osod y drafft.
Bellach gall San Steffan ddehongli cydsyniad fel (a) cydsyniad, (b) cydsyniad i beidio, (c) unrhyw beth arall y mae'n ei ddymuno. Yr unig gymhariaeth y gall arbenigwyr cyfreithiol yn y Cynulliad hwn ddod o hyd iddo yw deddfwriaeth gynllunio Llywodraeth Leol, ac mae honno hyd yn oed yn gryfach na'r hyn sydd wedi ei dderbyn yma. Mae San Steffan yn trin y Cynulliad hwn fel cyngor lleol ac mae ein Llywodraeth yn fodlon ar hynny.
Ddoe—.