Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 8 Mai 2018.
Mae Gweinidogion a swyddogion wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o gabinet prifddinas-ranbarth Caerdydd sawl gwaith ers mis Hydref 2015 i hybu'r gwaith o baratoi cynllun datblygu strategol ar gyfer y de-ddwyrain. Y cam nesaf nawr yw bod yn rhaid i'r cabinet nodi awdurdod cyfrifol fel y gall y gwaith o baratoi'r cynllun ar gyfer y rhanbarth yn ffurfiol ddechrau.