Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 8 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 1:50, 8 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Bydd Bil ymadael yr EU, fel y'i diwygiwyd, yn dal i ganiatáu i gymhwysedd y Cynulliad gael ei gyfyngu heb ei ganiatâd, ac nid yw'r cytundeb rhynglywodraethol yn rhoi sicrwydd pendant na fydd hyn yn digwydd. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno neu'n anghytuno â'r datganiad hwnnw?