Cymorth i'r Rhai sy'n Gadael Gofal

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 8 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 8 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

'Dysgu o esiampl da pobl eraill' yw'r hyn y byddwn i'n ei ddweud. Rydym ni eisoes wedi gofyn i awdurdodau lleol ddefnyddio eu pwerau i eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor. Ni fyddwn yn meddwl ei fod yn ergyd ariannol enfawr i gyllidebau awdurdodau lleol. Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn y mae Torfaen wedi ei wneud, a'r awdurdodau lleol eraill. Byddwn yn sicr yn annog eraill i'w dilyn.