Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:54 pm ar 8 Mai 2018.
Prif Weinidog, mae hon yn fargen amheus, ac mae'n un yr ydych chi wedi cytuno iddi. Ac nid creu anhrefn cyfansoddiadol yw'r unig beth y mae wedi ei wneud. Bydd eich penderfyniad i roi cydsyniad i'r Bil hwn yn arwain at oblygiadau i'n heconomi hefyd. Er bod eich plaid mewn llanastr ar y cwestiwn hwn, mae eich Gweinidogion ac Aelodau Llafur yn parhau i ymgyrchu dros aelodaeth o undeb tollau. Trwy hysbysu ein bod yn cydsynio i'r Bil ymadael, fodd bynnag, rydych chi'n rhoi Brexit caled i'r Torïaid ar blât. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau ei fod yn deall ei fod yn sicrhau, trwy gydsynio i'r Bil ymadael, mai San Steffan fydd yn penderfynu pa un a yw Cymru'n gadael yr undeb tollau a'r farchnad sengl?