Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 8 Mai 2018.
Rwy'n credu bod ein gofalwyr, a'n gofalwyr maeth yn arbennig, yn gwneud gwaith anhygoel. Rwyf i wedi cyfarfod pobl sydd wedi maethu llawer iawn o blant ac maen nhw wedi maethu plant sydd wedi dod atyn nhw o dan yr amgylchiadau anoddaf, weithiau fwy nag unwaith. Rwyf i wedi gweld gofalwyr maeth sy'n maethu plant yn ifanc iawn sydd wedyn, wrth gwrs, yn eu gweld yn cael eu mabwysiadu pan eu bod yn 18 mis neu'n ddwyflwydd oed. Mae'n anodd dros ben yn emosiynol i bobl, ac rwyf i'n llawn edmygedd ohonynt.
Gofynnodd beth yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth. Wel, rydym ni wedi sefydlu cronfa Dydd Gwŷl Dewi gwerth £1 filiwn. Mae honno'n cynorthwyo'r rhai sy'n gadael gofal i fanteisio ar gyfleoedd ym meysydd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Mae £625,000 i'r awdurdodau lleol ddatblygu cyfleoedd prentisiaeth a hyfforddeiaeth yn yr awdurdod lleol, gan weithredu fel rhieni corfforaethol da, a darparwyd £1 filiwn i awdurdodau lleol fel y gellir darparu cymorth cynghorydd personol i bob un o'r rhai sy'n gadael gofal tan y byddant yn 25 oed. Dim ond rhai enghreifftiau yw'r rhain o'r hyn yr ydym ni wedi ei wneud fel Llywodraeth i ddarparu'r math o gyllid sydd ei angen i roi dechrau gwell mewn bywyd i'n pobl ifanc sy'n gadael gofal.