Part of the debate – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 8 Mai 2018.
A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, os gwelwch yn dda, heddiw, os yw'n bosibl? Un yw ar y cynigion i adeiladu ffordd newydd o Gyffordd 34 ym Mro Morgannwg i Sycamore Cross. Rwy'n datgan buddiant gan y gallai hyn, o bosibl, effeithio ar ryw ran o fy nhir i. Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus mawr na lwyddais i fynd iddo nos Iau, ond rwy'n gwybod bod yr Aelod dros Fro Morgannwg wedi bod yno. Mae hyn wedi achosi cryn bryder yng nghyffiniau'r Pendeulwyn, ac er bod croeso wedi bod i'r ymgynghoriadau, mae llawer o amwysedd o hyd o amgylch y dyddiadau a'r amserlenni cyflwyno posibl, neu beidio, fel y bo'n berthnasol, ac o ran pwy yn union sy'n cefnogi'r cynigion hyn? Ai'r awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru , neu a yw'n gyfuniad o'r ddau? Byddai datganiad gan yr Ysgrifennydd Cabinet perthnasol o fudd i roi gwybod i'r gymuned am y materion ynghylch y cynnig hwn.
Yn ail, a gawn ni ddatganiad gan yr Ysgrifennydd dros Iechyd ynghylch y newyddion dros y penwythnos gan Goleg Brenhinol y Meddygon fod problem gyfrifiadurol wedi bod o bosibl, sydd wedi effeithio ar 1,500 o gynigion am swyddi i feddygon iau a'u lleoliadau mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac, yn wir, mentraf ddweud, yng Nghymru hefyd—sut y gallai hyn fod wedi effeithio neu beidio ag effeithio ar swyddi sydd i'w llenwi yma yng Nghymru? Rydym i gyd yn ymwybodol o'r problemau recriwtio yn y gwasanaeth iechyd ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig. Ond mae'n destun pryder clywed am y broblem hon gan y Coleg Brenhinol, sydd wedi effeithio ar o leiaf 1,500 o gynigion swyddi o bosibl. Yn benodol, a gawn i wybod sut y gallai hynny fod wedi effeithio neu beidio ag effeithio ar wasanaethau iechyd yma yng Nghymru?