Part of the debate – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae gennyf i ddau fater. Yr un cyntaf: roedd dydd Iau diwethaf yn amlwg yn ddiwrnod eithaf siomedig wrth inni glywed y newyddion y bydd bron i 800 o swyddi yn cael eu colli yng nghanolfan alw Virgin Media yn Llansamlet yn Abertawe. Mae colli cannoedd o swyddi yn amlwg yn mynd i gael effaith yn lleol. Mae'n golygu amser ansicr a thrallodus iawn i'r staff a'u teuluoedd. Nawr, rwy'n sylweddoli y cynhyrchwyd datganiadau ysgrifenedig, ond byddwn yn gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cymaint o gymorth â phosibl i'r rheini yr effeithir arnynt. Ond mae'r cyhoeddiad hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn â lefel y cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a chwmnïau mawr fel hyn. Oherwydd y llynedd bu cyhoeddiad tebyg pan symudwyd dros 1,000 o swyddi yng nghanolfan alwadau Tesco o Gaerdydd, gyda Llywodraeth Cymru eto yn amlwg yn cael gwybod dim ond pan wnaed y cyhoeddiad cyhoeddus. Nawr, gan fod y sector canolfannau galw yn gyflogwr allweddol yn Abertawe, fel mewn rhannau eraill o Gymru, byddai disgwyl i Lywodraeth Cymru fod yn gwbl ymwybodol o unrhyw anawsterau a wynebir gan gyflogwyr neu o unrhyw newidiadau arfaethedig cyn i ddatganiadau cyhoeddus o'r fath gael eu gwneud. Mae cyhoeddiad Virgin Media felly yn codi cwestiynau am y math o berthynas sydd rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau, a'r mecanweithiau a sefydlwyd i gasglu gwybodaeth ac i drafod yn ffurfiol a datrys unrhyw bwysau busnes neu newidiadau arfaethedig. Felly, gyda hynny i gyd mewn golwg, byddwn yn ddiolchgar pe bai Ysgrifennydd y Cabinet yn cyflwyno datganiad y gallwn ni ei drafod yma ar benderfyniad canolfan alwadau Virgin Media.
A'r ail fater yw'r costau indemniad meddygol ar gyfer meddygon teulu. Dyna'r gost yswiriant meddygol y mae'n rhaid i ni—pob meddyg teulu, pob meddyg—ei chael. Cyn y cewch ymarfer fel meddyg, mae'n rhaid chi gael yswiriant i dalu am unrhyw gostau posibl o ymgyfreitha, sy'n filoedd o bunnoedd, ac ar gyfer meddygon teulu telir hwn yn bersonol. Mae meddygon teulu llawn amser yn talu cymaint â £6,000 i £8,000 y flwyddyn, a hyd yn oed i feddygon teulu rhan-amser, gall y costau fod yn £3,500 neu fwy. A thelir hyn yn bersonol gan feddygon teulu. Telir y costau hynny ar ran meddygon ysbyty. Y sefyllfa o ran meddygon teulu sy'n mynd yn fwyfwy rhan-amser, neu'n gwneud gwaith locwm nes ymlaen yn eu gyrfaoedd, yw eu bod yn pwyso'r costau o barhau i dalu'r yswiriant indemniad meddygol hwnnw a'r costau cynyddol, gyda'r awydd i wneud un neu ddau ddiwrnod o waith, a chanfod nad yw gwneud un neu ddau ddiwrnod gwaith yn talu am gostau indemniad meddygol. Felly, byddem yn ddiolchgar pe gellid edrych yn fanwl ar y sefyllfa honno gan Ysgrifennydd y Cabinet, oherwydd ei bod yn colli sector gwerthfawr a phrofiadol o weithlu meddygon teulu drwy beidio â gweithredu ar y pwynt hwn. Diolch yn fawr.