4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer Adolygu'r Defnydd o Rwyllau Synthetig Gweiniol

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:21 pm ar 8 Mai 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 3:21, 8 Mai 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ddydd Gwener, cyhoeddais adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen a sefydlais i adolygu'r defnydd o dâp a llieiniau rhwyll synthetig y wain i drin anymataliaeth wrinol sy'n gysylltiedig â straen a phrolaps organau'r pelfis. Mae'r adroddiad hwn yn rhoi cyfrif cynhwysfawr o'r defnydd o rwyll yng Nghymru a'r problemau sy'n gysylltiedig ag ef. Yn bwysig, mae'n gwneud argymhellion ar y camau y dylem ni yn awr eu cymryd i wneud gwelliannau angenrheidiol a chyflym. Diolch i aelodau'r grŵp gorchwyl a gorffen am eu gwaith. Hoffwn gydnabod dewrder ac ymrwymiad y menywod hynny sydd wedi gweithio'n ddiflino i dynnu sylw at y mater hwn. Er iddynt ddewis peidio, yn ddealladwy, â chymryd rhan uniongyrchol yng ngwaith y grŵp, mae'r dystiolaeth y maen nhw wedi'i darparu wedi hysbysu'r canfyddiadau a'r argymhellion—ac, wrth gwrs, rwyf wedi dweud o'r blaen fy mod wedi cyfarfod â grŵp o oroeswyr rhwyll.

Mae pob adolygiad hyd yn hyn wedi dangos pa mor anodd fu cael asesiad dibynadwy o faint y broblem a all fod yn gysylltiedig â defnyddio rhwyll y wain. Fodd bynnag, yr hyn sy'n glir, er y gallai fod llawer o fenywod wedi elwa o driniaeth o'r fath, yw bod rhai menywod wedi dioddef cymhlethdodau difrifol sydd wedi newid eu bywydau o ganlyniad i hyn. Mae'r adroddiad hwn yn ailddatgan hyn ac yn darparu cyngor clir ar beth sydd angen ei wneud i gefnogi'r rhai hynny sy'n byw gydag effeithiau gwanychol cymhlethdodau rhwyll. Mae hefyd yn glir bod angen gwella ein dull o reoli problemau iechyd y pelfis wrth symud ymlaen.

Ceir cyfyngiadau clir o ran digonolrwydd ein data er mwyn deall lefel y cymhlethdodau. Mae'r adroddiad yn egluro pam mae hyn yn wir ac yn cynnig rhai atebion tymor byr a thymor hwy i fynd i'r afael â hyn. Fodd bynnag, yr hyn sy'n amlwg o'r data a gyflwynwyd yw'r gostyngiad sydyn yn nifer y cleifion sydd wedi cael triniaethau rhwyll yng Nghymru dros y 10 mlynedd diwethaf. Yn ystod yr adolygiad hwn, cyhoeddodd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal ganllawiau newydd, ym mis Rhagfyr 2017, yn datgan yn glir iawn na ddylid atgyweirio prolaps wal y wain â rhwyll drwy'r wain ond yng nghyd-destun ymchwil. Rwy'n nodi bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi croesawu'r penderfyniad hwn gan NICE a'u bod wedi dod i'r un farn. Rwyf i, wrth gwrs, yn disgwyl i'r cyngor hwnnw gael ei ddilyn yng Nghymru.

Mae canfyddiadau cyffredinol ac argymhellion yr adroddiad yn dod o fewn pum maes allweddol: y llwybr gofal cychwynnol gofynnol i gefnogi menywod o ran iechyd a lles y pelfis, sy'n cynnwys mynediad at dimau amlddisgyblaethol o glinigwyr sy'n ymgorffori gofal ymataliaeth, ffisiotherapi, rheoli poen a, phan fo'n briodol, sgiliau seicoleg; rhoi gwybodaeth well i gleifion er mwyn sicrhau y gallan nhw wneud penderfyniad cytbwys a rennir am opsiynau triniaeth; sicrhau bod gan feddygon teulu y gallu uniongyrchol i gael cyngor arbenigol, fel y gallan nhw gefnogi eu cleifion yn well; gwneud gwelliannau sylweddol yn y prosesau sy'n gysylltiedig â chasglu data o'r triniaethau a roddir ac unrhyw fewnblaniadau a ddefnyddir; a sicrhau mynediad at gymorth arbenigol ar gyfer tynnu rhwyll drwy ddatblygu un neu fwy o ganolfannau amlddisgyblaethol arbenigol wedi'u hachredu'n llawn. Rwyf nawr eisiau sicrhau ein bod yn bwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad yn gyflym.

Yr hyn sy'n arbennig o glîr i mi, ar ôl darllen yr adroddiad hwn, yw bod angen inni gael newid sylfaenol yn y ffordd y mae'r GIG yn cefnogi menywod sydd â phroblemau iechyd y pelfis, gan symud ymlaen i ganolbwyntio ar atal a therapïau ceidwadol, gydag ymyrraeth lawfeddygol fel dewis olaf. Ar yr un pryd, mae angen inni sicrhau bod cymorth arbenigol ar gael yn gynnar i'r rhai hynny â chymhlethdodau triniaeth er mwyn atal y canlyniadau gwaethaf. Rwyf felly yn sefydlu grŵp gweithredu dan gyfarwyddyd gweinidogol i oruchwylio'r meysydd penodol o iechyd menywod sydd angen sylw a'u gwella ar frys. Yn y lle cyntaf, ei flaenoriaeth fydd goruchwylio'r gwaith o weithredu'r argymhellion o'r adolygiad o dâp a rhwyll y wain. Ochr yn ochr â hyn, rwyf hefyd eisiau i'r grŵp ystyried unrhyw argymhellion sy'n codi o'r adolygiadau endometriosis ac anymataliaeth ysgarthol sydd ar y gweill. Mae'r adolygiad tâp a rhwyll yn amlygu y gallwn ni ddisgwyl y bydd nifer o feysydd sy'n gorgyffwrdd y mae angen eu dwyn ynghyd.

Yn dilyn y pwyslais cychwynnol hwn, byddaf yn cymryd cyngor gan y prif swyddog meddygol a'r prif swyddog nyrsio wrth benderfynu beth ddylai fod yn flaenoriaethau nesaf i'r grŵp. Bydd angen i aelodaeth y grŵp hwn fod yn hyblyg oherwydd, er y bydd y pwyslais cychwynnol ar rwyll a thâp, bydd angen cynrychiolaeth briodol ar y grŵp—cynrychiolaeth broffesiynol a lleyg—ar draws meysydd eraill iechyd menywod. Rwy'n falch bod Tracy Myhill, prif weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, wedi cytuno'n garedig i gadeirio'r grŵp.

Rwyf wedi sicrhau bod hyd at £1 miliwn y flwyddyn o gyllid ar gael i gefnogi'r gwelliannau sydd eu hangen. Wrth gwrs, bydd llawer y gallwn ni ei wneud o fewn yr adnoddau presennol, drwy ailgynllunio gwasanaethau ac o bosib symud gwasanaethau o ysbytai i gymunedau, i sicrhau bod llwybr iechyd a lles y pelfis yn y gymuned yn cael ei roi ar waith ym mhob bwrdd iechyd ledled Cymru. Dylai'r adnodd hwn helpu'r llwybrau hyn i fod y drefn arferol ledled Cymru ar sail gyson. Yn y cyfamser, rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad i ystyried pa welliannau lleol y gellir eu gwneud ar unwaith. Yn sicr, ein nod yw sicrhau bod menywod yn cael y gofal a'r driniaeth orau bosib pan fyddan nhw'n dod atom yn dioddef o anymataliaeth wrinol sy'n gysylltiedig â straen neu brolaps organau'r pelfis, neu unrhyw gymhlethdodau eraill o ganlyniad i driniaeth bresennol.

Rwyf wedi gofyn i fy swyddogion sefydlu grŵp gweithredu yn ddi-oed, a byddaf yn disgwyl diweddariadau rheolaidd ar y cynnydd. Wrth gwrs, bydd yn bwysig i'r gwaith gael ei ategu gan amrywiaeth o fesurau er mwyn gallu dangos gwelliannau yng nghanlyniadau a phrofiad cleifion. Bydd angen i'r grŵp hefyd barhau i adolygu ei waith yn rheolaidd yn unol ag unrhyw dystiolaeth newydd a ddaw i'r amlwg. Rwyf hefyd wedi rhannu adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen gyda chadeiryddion yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd a NICE, ac wedi gofyn iddo lywio'r gwaith parhaus yn y maes hwn. Rwy'n credu bod y camau hyn yn gyfle i roi pwyslais mawr ei angen ar iechyd menywod a galluogi'r GIG i fynd i'r afael â meysydd allweddol yr oedd angen eu gwella ers amser.