Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch ichi am y sylwadau a'r cwestiynau hynny. Dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am ddweud bod y materion torgest yn faterion ar wahân, gyda grŵp gwahanol o lawfeddygon a phroses wahanol ar waith i ddeall lefel y cymhlethdodau sy'n bodoli. Mae hwn wedi canolbwyntio yn ddiedifar ar faterion iechyd menywod, ac, yn blwmp ac yn blaen, pe byddai'r lefel hon o gymhlethdodau wedi effeithio ar faterion iechyd dynion, rwy'n tybio y byddem wedi clywed amdanyn nhw'n gynt o lawer.
Fe wnaf i ymdrin â'ch pwynt olaf yn gyntaf am y timau amlddisgyblaethol. Wrth gwrs, mae argymhelliad 5 yn ymdrin â thimau amlddisgyblaethol ar gyfer clinigau poen y pelfis, yn hytrach na thimau amlddisgyblaethol ehangach sydd ar waith mewn llawdriniaeth. Mae her yma i wneud yn siŵr fod gennym y nifer gywir o dimau amlddisgyblaethol ar waith, gan gynnwys, wrth gwrs, ganolfan arbenigol ar gyfer tynnu rhwyllau, ac i ystyried un neu fwy o'r rheini, ac yn benodol yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y de a chael canolfan lawfeddygol amlddisgyblaethol achrededig, ond hefyd am barhau i ddefnyddio Manceinion ar gyfer cleifion yn y gogledd.
O ran eich pwyntiau ynghylch gwahardd—. Na, fe wnaf ymdrin â'ch pwynt am archwilio yn gyntaf, cyn imi ddod yn ôl at y pwynt am wahardd rhwyll, sydd wedi ymddangos yn amlwg iawn yn yr hyn y gofynnwyd i ni ei wneud dros gyfnod o amser. Os edrychwn ni ar yr archwilio hynny sydd wedi digwydd yn Lloegr, maen nhw'n ei ystyried ar sail arbrofol yn Lloegr i geisio archwilio'n ôl-weithredol yr hyn sydd wedi digwydd. Yr hyn sydd wedi bod yn ddefnyddiol yw, rhwng swyddogion yn Llywodraeth Cymru ac Adran Iechyd Llywodraeth y DU, sy'n gweithredu ar ran Lloegr, y cafwyd trosglwyddiad adeiladol iawn o wybodaeth am yr archwiliad sy'n digwydd, ac mae tebygrwydd yn yr ystod o heriau yr ydym yn disgwyl i'r archwiliad yn Lloegr eu datgelu. Cyn i mi ystyried cymryd camau ôl-weithredol, lle na allwn ni fod yn siŵr o union werth hynny, mae gennyf ddiddordeb, er hynny, mewn deall beth sy'n digwydd yn Lloegr a pha wersi y gallwn ni eu dysgu o hynny, yn ogystal ag edrych yn fwy rhagweithiol ar y materion ar gyfer mewnblaniadau newydd o ddyfeisiau meddygol.
Mae yna gyfarwyddeb yr Undeb Ewropeaidd, a fydd yn cael ei rhoi ar waith yn 2020 neu 2021. Wrth gwrs, bydd hwnnw'n dal i fod yn fater i ni, ni waeth pa fargen drosiannol y mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno arni neu ddim yn cytuno arni a'n perthynas ni gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ond mae hynny'n ystyried gallu deall a bod â chofrestr briodol o ba ddyfeisiau sydd wedi'u mewnblannu mewn pobl yn fwy cyffredinol. Nawr, mae yna her yn y fan honno ynghylch deall a ydyn nhw'n gallu sganio hynny a deall sut y gwneir hynny, a chaiff hynny ei gynnwys yn yr argymhellion yn yr adroddiad. Wrth ddatblygu'r argymhellion hyn, bydd angen inni benderfynu beth fydd ein dull o wneud hynny. Nid yw hynny'n rhywbeth a gaiff ei guddio neu sydd ar fin cael ei anghofio. A bydd hynny'n ein helpu ni i ymdrin â rhai o'r ceisiadau gan y menywod dan sylw. Yn y ceisiadau a roddwyd i ni, rwy'n credu y byddwn yn gallu dangos cynnydd ym mhob maes fwy neu lai, ar wahân i fater y gwaharddiad.
Soniasoch am yr Alban, a'r cais i atal dros dro a wnaed gan Ysgrifennydd Iechyd yr Alban. Wel, mater i Ysgrifennydd Iechyd yr Alban yw ateb drosto ei hun am ei ddull gweithredu, ond, fel y dywedwch chi, mae amrywiaeth o bobl yn dal wedi cael mewnblaniadau rhwyll ers yr amser hwnnw. Mae hynny oherwydd nad oes gan Ysgrifennydd Iechyd yr Alban, fel fi, y grym i wahardd mewnblaniadau rhwyll. Yr her yw, er bod y rhain yn ddyfeisiau a reoleiddir sydd ar gael, ac maen nhw ar gael i'w defnyddio, ei bod yn fater o ganiatâd rhwng y darparwr iechyd a'r dinesydd unigol ynghylch a yw'n dymuno cael y llawdriniaeth.
Nawr, fel y dywedaf, mae yna nifer o fenywod sydd wedi cael y llawdriniaeth heb gymhlethdod. Rhan o'r hyn y gofynnodd y menywod inni ei ystyried, a rhan o gylch gorchwyl y grŵp gorchwyl a gorffen, oedd cael cydsyniad gwybodus priodol i wneud yn siŵr bod pobl mewn gwirionedd yn cael eglurhad o'r heriau a'r risgiau, i wneud yn siŵr mai hwn yw'r dewis olaf un. A hyd yn oed wedyn, bydd rhai menywod yn dewis peidio â chael y llawdriniaeth, a dylai hwnnw fod yn ddewis gwybodus i'w wneud, yn yr un modd ag y mae menywod sy'n dewis cael llawdriniaeth, os dyna yw eu dewis—mae'n rhaid iddyn nhw ddewis hynny ar sail gwybodaeth briodol.
Er hynny, rwyf wedi ysgrifennu at yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn gofyn iddyn nhw ystyried y penderfyniadau a reoleiddiwyd yn Awstralia a Seland Newydd yn benodol i wahardd rhwyll. Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd wedi ymateb ac wedi dweud nad ydyn nhw'n bwriadu gwneud hynny. Fodd bynnag, ers hynny, mae arolwg Cumberlege yn mynd i edrych eto ar nifer o'r materion hyn, a bydd ymgysylltiad gan y GIG a'r Llywodraeth yn yr adolygiad hwnnw, ac rwy'n disgwyl y bydd menywod ledled Cymru yn cymryd rhan yn yr adolygiad hwnnw hefyd. Felly, nid yw hwn yn fater sy'n mynd i ddiflannu. Er nad oes gennyf i'r grym—a byddwch chi'n deall pam nad oes gan wleidyddion y grym i wahardd yn benodol ddyfeisiau neu gyfarpar llawfeddygol sydd ar gael ar gyfer y gwasanaeth iechyd—mae gennym ni sefyllfa sydd â rhaniad priodol rhwng grym y rheoleiddiwr a grym y gwleidydd. Ond fel rwy'n dweud, rwyf wedi rhoi copi o'r adolygiad hwn iddyn nhw, ac edrychaf ymlaen at adolygiad Cumberlege a'r hyn y bydd ganddo i'w ddweud, ac am barhau i adolygu'r penderfyniad hwn yn briodol ar sail y dystiolaeth sydd ar gael.