Part of the debate – Senedd Cymru am 3:53 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch. Gallaf gadarnhau o ran eich pwynt olaf, a byddaf yn cysylltu hwnnw â'r gwaith trawsffiniol ar dystiolaeth a chynnydd, fel y nodais mewn ymateb i'r gyfres gyntaf o gwestiynau, fod yr archwiliad a gynhelir yn Lloegr ar sail arbrofol ac ni chafodd ei gynnal yn y ffordd honno o'r blaen. Wrth gwrs, bydd gennyf ddiddordeb yn y dystiolaeth a ddarperir ac mae swyddogion yn cymryd rhan yn yr adolygiad a gynhelir gan yr Adran Iechyd. Ni fyddwn yn disgwyl y byddai gwahaniaeth sylweddol yn nifer y problemau sy'n deillio o'r triniaethau hyn. Felly, mae'n rhaid inni ddechrau drwy gydnabod bod yna broblem yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod hynny oherwydd bod gennym ni bobl sydd wedi goroesi cymhlethdodau ac sy'n byw gyda nhw yn awr. A rhan o'r her i ni yw deall nifer y bobl a deall amharodrwydd rhai pobl i ddod ymlaen. Mae'n ddigon hawdd deall pam nad yw rhai pobl am dynnu sylw at y problemau sydd ganddyn nhw, yn enwedig os ydyn nhw'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael eu credu ar gam cynnar pan oedd cymhlethdodau'n codi. A gall tynnu rhwyll fod yn llawdriniaeth gymhleth ac anodd nad yw bob amser yn gwbl lwyddiannus. Mae yna risgiau yn hynny hefyd.
Fel yr wyf wedi dweud mewn ymateb i nifer o bobl eisoes a cheisiais ddweud ar y dechrau, nid wyf mewn sefyllfa i wahardd rhwyll. Nid wyf mewn sefyllfa i atal ei ddefnydd dros dro ychwaith. Yr hyn y mae'r adroddiad yn ei egluro yw y dylai fod yn ddewis olaf. Fel y dywedais, mae pobl yn dweud wedyn, 'Wel, beth yw dewis olaf?' Wel, mae'n ymwneud â sicrhau y rhoddir cynnig ar bob un o'r opsiynau triniaeth ceidwadol hynny nad ydynt yn llawfeddygol yn gyntaf, a dyna pam y mae'n rhaid rhoi pwyslais priodol ar sicrhau bod gennym drefniant mwy cyson â'r timau amlddisgyblaethol i wneud yn siŵr y darperir yr opsiynau hynny yn gynnar, ac yna, wrth fynd trwy unrhyw opsiynau triniaeth, y tynnir sylw'r menywod hynny at ganlyniadau posibl pob un opsiwn. Fel y dywedais, rwy'n cydnabod mai rhai o'r heriau gwirioneddol yr ydym ni wedi'u deall yw nid fod y risgiau wedi'u hegluro a bod pobl wedi bwrw ymlaen yn gwbl ymwybodol o'r risgiau hynny, ond bod llawer o fenywod wedi dweud na roddwyd sail wirioneddol ddeallus iddyn nhw er mwyn gwneud y dewis hwnnw ynghylch rhoi caniatâd i lawdriniaeth neu beidio.
O ran yr ymgais a wnaed i geisio cael pobl a oedd yn byw gyda chymhlethdodau rhwyll i gymryd rhan yn y grŵp gorchwyl a gorffen, ar ôl penderfynu sefydlu'r grŵp hwnnw, roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr bod pobl sy'n byw gyda rhai o'r cymhlethdodau hynny a allai gyfrannu at y gwaith hwnnw. Roedd hynny'n golygu bod y gwahoddiad wedi bod yn fyr rybudd, gyda'r cylch gorchwyl, y bobl dan sylw ac yn wir y dystiolaeth y byddent yn ei hystyried. Nid dim ond yn y cyfnod cynnar hwnnw yn unig, er hynny, y gwnaed ymgais i gynnwys menywod yn y gwaith hwnnw. Trwy gydol oes y grŵp gorchwyl a gorffen, am nifer o fisoedd, ceisiwyd dod o hyd i ffordd y gallen nhw gael mewnbwn gwirioneddol, naill ai i'r grŵp cyfan neu i aelodau ohono. Nid oedd hynny'n bosibl. Yn sicr, nid wyf yn dymuno gweld unrhyw fath o feirniadaeth o gwbl ynghylch penderfyniad y menywod hynny i beidio ag ymwneud yn uniongyrchol â gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen. Rwy'n credu ei bod hi'n hawdd deall pam y gwnaethon nhw ddewis peidio â gwneud hynny. Ond fe wnaethon nhw, er hynny, barhau i gyfrannu.
Fel y gwyddoch chi, cawsom gyfarfod â'ch etholwyr i gael y sgwrs honno a chymerwyd i ystyriaeth eu straeon a'r dystiolaeth ysgrifenedig a ddarparwyd ganddyn nhw a'u rhoi i'r grŵp gorchwyl a gorffen, ac mae'n rhan o'r rheswm pam yr estynnwyd gwaith y grŵp gorchwyl a gorffen. Oherwydd fe wnaethon nhw ystyried y dystiolaeth a ddarparwyd gan Jemima Williams a Nicola Hobbs, a chyfeirir ati yn yr adroddiad. Gobeithio felly bod hynny yn helpu i roi rhywfaint o sicrwydd bod eu tystiolaeth yn cael ei ystyried o ddifrif. Ac wrth ddatblygu gwaith y grŵp gweithredu, mae angen inni ddod o hyd i ffordd y gall y menywod eu hunain sy'n byw gyda'r cymhlethdodau gyfrannu mewn gwirionedd i waith y grŵp gweithredu, yn ogystal â'r bobl hynny sydd ar y llwybr eisoes ac sy'n ymgymryd ag opsiynau triniaeth geidwadol ar hyn o bryd. Felly, mae llawer mwy i ni ei wneud ac, fel y dywedais mewn ateb cynharach, byddaf yn hapus i adrodd yn ôl i'r Aelodau ar y gwaith a wneir a'r cynnydd yr ydym ni'n ei wneud.