Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 8 Mai 2018.
A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Rwy'n falch fod y Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyflwyno'r datganiad pwysig hwn, yn enwedig yn ngoleuni'r cytundeb rhwng Llywodraethau Cymru a'r DU o ran Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), sy'n golygu ein bod ni gam yn nes at ddyfodol newydd i amaethyddiaeth Cymru a Phrydain.
Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cytuno ar y bum egwyddor graidd a nodwyd ym mis Chwefror, yn enwedig o ran y syniad fod cynhyrchu bwyd yn parhau i fod yn hanfodol. Yn wir, mae ffermwyr yn dal i godi'u pryderon gyda mi am ddyfodol eu cymorthdaliadau pe byddai Prydain yn penderfynu mabwysiadu dull sy'n rhoi blaenoriaeth i amddiffyn yr amgylchedd yn hytrach na chynhyrchu bwyd. Rwy'n falch bod y datganiad heddiw yn cydnabod bod ffermwyr Cymru yn dal i fod yn geidwaid cefn gwlad rhagorol a'i bod yn hanfodol fod y cydbwysedd yn gywir rhwng amddiffyn yr amgylchedd a chynhyrchu bwyd. Er fy mod yn derbyn y cynhelir ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni, a oes modd iddi roi mwy o wybodaeth inni o'r cychwyn cyntaf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau'r cydbwysedd hwnnw fel y gall ffermwyr Cymru fod yn sicr o'r llwybr a ddilynir wedi Brexit?
Wrth gwrs, bydd yn rhaid cael system bontio ar waith ar gyfer y trefniadau ariannu i'r dyfodol, ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn barod i nodi bod ymgysylltu wedi digwydd yn barod gyda rhanddeiliaid a llywodraethau eraill yn hyn o beth. Yng ngoleuni'r sylwadau a wnaed eisoes gan Ysgrifennydd y Cabinet ar y mater hwn, a oes modd iddi roi rhywfaint rhagor o wybodaeth am ba drefniadau cyllido yn union y mae Llywodraeth Cymru eisiau eu gweld yn y dyfodol, o gofio bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo cyllid tan 2022? Yn ei datganiad heddiw mae hi wedi cadarnhau y bydd y cynllun taliad sylfaenol ond yn parhau i fod yn weithredol tan 2020.