Part of the debate – Senedd Cymru am 5:19 pm ar 8 Mai 2018.
Diolch, Simon Thomas. Rwy'n derbyn yn llwyr eich barn chi am y Bil i ymadael â'r UE. Nid wyf yn cytuno â chi, ac mae'n amlwg fod sylwadau Prif Weinidog Cymru ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid fel ei gilydd wedi'u gwyntyllu'n ddigon aml. Roeddech yn gofyn a ydwyf i wedi trafod y bum egwyddor gyda Michael Gove a George Eustice—nac ydwyf, ddim yn benodol. Er hynny, byddwn ni yn cyfarfod, fel y dywedais, bob mis, bob chwe wythnos mewn cyfarfodydd pedairochrog, ac maen nhw'n ymwybodol iawn, ac yn cytuno, y byddwn ni'n cyflwyno polisi amaethyddol i Gymru. Soniais yn fy natganiad fy mod yn cadw fy newisiadau yn agored o ran Bil amaethyddol y DU. Ond eto, hyd nes y gwelwn hyd yn oed Fil drafft, ni chredaf y gallwn ddweud yn union beth fyddwn yn ei wneud o ran deddfwriaeth.
Rwy'n gobeithio ichi glywed fy ateb i Paul Davies o ran y cyllid. Rydych chi yn llygad eich lle; mae'r Trysorlys wedi dweud y bydd y cyllid yno tan 2022. Rwyf wedi ymrwymo i gadw at y cynllun taliad sylfaenol tan ddiwedd 2019. Eto i gyd, rwy'n mynd ar fy llw y bydd y cyllid hwnnw—ac mae Prif Weinidog Cymru wedi gwneud hynny hefyd— yn cael ei ddyrannu'n benodol i'r sector amaethyddol a'n rheolwyr tir ac ati tan 2022, ac yn sicr—eto, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud hyn o'r blaen—tan ddiwedd y tymor Cynulliad hwn. Ond bydd hynny'n rhan o'r ymgynghoriad hefyd. Mae gennym tua 25,000 o fusnesau fferm yng Nghymru, ac mae'n debyg nad yw 10,000 ohonyn nhw'n cael unrhyw gynllun taliad sylfaenol o gwbl. Felly, mae angen inni edrych ar sut y byddwn ni'n dosbarthu'r arian hwnnw, ac, fel y dywedais, bydd hynny'n rhan o'r ymgynghoriad.
Soniais am yr adroddiad gan eich pwyllgor, ac rydym yn ystyried yr argymhellion i gyd. Nid yw hynny oherwydd nad ydym yn cymryd unrhyw fath benodol—. Ac, yn amlwg, byddaf yn cyflwyno'r ymateb. Ein ffermwyr sydd i benderfynu yn gyfan gwbl sut y maen nhw am ddefnyddio eu tir, a sut maen nhw'n cael y gorau o'u tir. Y nhw yw'r rhai sy'n gallu dweud wrthyf i sut y maen nhw'n teimlo am hynny, ond yna Llywodraeth Cymru sydd â'r gallu i hwyluso hynny. Yn sicr, un o'r pethau yr wyf yn eu clywed gan y ffermwyr yw eu hawydd i arallgyfeirio. Soniais, eto, am y cynllun ynni dŵr, ac ati, ac rwyf eisiau gallu bod mewn sefyllfa i'w helpu. Credaf fod hwn yn gyfle mawr i fireinio ein polisi, ac rwy'n ofni nad wyf yn rhannu'r ofnau sydd gennych chi o ran y pwerau.