Part of QNR – Senedd Cymru ar 8 Mai 2018.
Mae Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynigion i drawsnewid gwasanaethau cymunedol a gwasanaethau ysbyty yn y canolbarth a’r gorllewin. Rŷm ni’n hollol gefnogol i’r angen am yr ymgynghoriad pwysig hwn. Nid ydym ni'n ffafrio unrhyw ganlyniad yn fwy na’i gilydd, ac rŷm ni’n annog y bwrdd iechyd i wneud yn siŵr bod y cyhoedd yn cael pob cyfle i gymryd rhan yn y broses.