Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 16 Mai 2018.
Diolch, Llywydd. Bythefnos yn ôl, Ysgrifennydd y Cabinet, roeddech chi wedi cyhoeddi'r adolygiad canol ffordd o ran y cynllun buddsoddi isadeiledd Cymru, oedd yn wreiddiol yn cynnwys piblinell o brosiectau gwerth £42 biliwn mewn cyfanswm. Wrth gwrs, yn y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, dim ond ryw £1.5 miliwn—tua £1.5 miliwn, £1.6 miliwn—sy'n fuddsoddiad cyfalaf, ac rwy'n credu ein bod ni'n cydnabod bod hynny'n golygu, o wneud y maths, felly, y byddai'n cymryd blynyddoedd maith, wrth gwrs, i ni gyflawni’r holl anghenion buddsoddi o ran yr isadeiledd sydd ei angen. Mae'n rhaid cyferbynnu hyn, ond oes, gyda'r sefyllfa yn ne-ddwyrain Lloegr a Llundain, sef y gornel o'r Deyrnas Gyfnol sydd yn derbyn y sleisen fwyaf o'r gacen o safbwynt buddsoddiad mewn isadeiledd, ac maen nhw nawr ar fin, wrth gwrs, derbyn £550 miliwn yn ychwanegol i achub croen project Crossrail, sydd, mae'n debyg, yn gorwario. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae tua hanner—ychydig yn llai na hanner—o'r hyn y mae Llywodraeth Prydain yn bwriadu ei fuddsoddi yn y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru yn y cyfnod nesaf o fuddsoddiad pum mlynedd. A ydych chi'n gallu cadarnhau na fydd Cymru yn derbyn unrhyw arian ychwanegol o ganlyniad i'r buddsoddiad ychwanegol hwnnw mewn Crossrail, gan fod, o dan y setliad ariannol ar hyn o bryd, ffactor cymharedd o 0 y cant sy'n cael ei ddefnyddio o ran y fformiwla? Ac o ddilyn y trywydd hwnnw, pe bai rheilffyrdd yn cael eu datganoli yn llwyr, fel y sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, oni fyddai Cymru yn elwa i'r graddau o £700 miliwn yn ychwanegol, er mwyn buddsoddi yn ein rhwydwaith ni a gwneud yn iawn am y tanwariant sydd wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf, a dros y pum mlynedd nesaf o 2019 i 2024?